Collodd Wrecsam o 3-1 yn erbyn Bromley, sydd newydd eu dyrchafu i’r Gynghrair Genedlaethol, ar ddiwrnod agoriadol y tymor.

Aeth y Cymry 1-0 ar y blaen wedi 22 o funudau yn sgil gôl gan Wes York oddi ar groesiad isel Dominic Vose.

Ond tarodd y Saeson yn ôl gyda dwy gôl o fewn pum munud – y naill gan Sean Francis a’r llall gan Alex Wall.

Roedd trydedd gôl i Bromley cyn yr egwyl wrth i Moses Emmanuel daro ergyd heibio i Cameron Belford.