Collodd Casnewydd yn drwm o 3-0 oddi cartref yng Nghaergrawnt ar ddiwrnod cynta’r Ail Adran.

Sgoriodd Barry Corr ddwy gôl i’r Saeson – y naill gyda’i ben yn yr hanner cyntaf a’r llall yn yr ail hanner wrth herio’r golwr Joe Day yn y cwrt cosbi.

Cafodd Casnewydd gic o’r smotyn wrth i Harrison Dunk lorio Scott Boden, ond methodd Medy Elito wrth i Sam Beasant arbed y cynnig.

Daeth trydedd gôl Caergrawnt ddeg munud cyn diwedd yr ornest, wrth i Robbie Simpson ergydio o ymyl y cwrt cosbi i sicrhau’r triphwynt.