Cafodd paratoadau Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd ergyd sylweddol wrth iddyn nhw golli o 35-21 yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm.
Sgoriodd y Gwyddelod dri chais yn yr hanner cyntaf, wrth i’r capten Jamie Heaslip, Darren Cave a Keith Earls groesi’r llinell, cyn i’r eilydd o asgellwr Simon Zebo ychwanegu cais arall i’r cyfanswm yn yr ail hanner i gipio’r fuddugoliaeth.
Cafodd Ross Moriarty ei anfon i’r cell cosb am dacl uchel ar Zebo yn fuan cyn hynny.
Sgoriodd Iwerddon bumed cais wedi 54 o funudau wrth i’r cefnwr Felix Jones groesi.
Roedd dwy gic gosb a dau drosiad hefyd i’r maswr Paddy Jackson.
Os oedd yna ochr bositif i’r cyfan i Gymru, roedd ceisiau i Richard Hibbard, Justin Tipuric ac Alex Cuthbert, wrth i James Hook a Gareth Anscombe sgorio tri throsiad rhyngddyn nhw.
Fe fydd amheuon yn cael eu codi am y bartneriaeth rhwng Mike Phillips a James Hook, wedi i’r mewnwr a’r maswr ddod oddi ar y cae lai na deg munud wedi’r egwyl.
Bydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland yn enwi ei garfan derfynol o 31 ar gyfer Cwpan y Byd ymhen tair wythnos.