Craig Noone gipiodd pwynt hwyr i Gaerdydd ar ddiwrnod agoriadol y tymor newydd yn y Bencampwriaeth, wrth i’r ornest yn erbyn Fulham yn Stadiwm Dinas Caerdydd orffen yn gyfartal 1-1.

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision yn ddi-guro ar ddiwrnod agoriadol y tymor ers deng mlynedd.

Aeth Fulham ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, wrth i Matt Smith benio i gefn y rhwyd wedi i golwr Caerdydd, Simon Moore ollwng ei afael ar y bêl.

Tarodd Caerdydd yn ôl bedair munud yn ddiweddarach, ond penderfynodd y dyfarnwr bod Anthony Pilkington wedi llawio’r bêl.

Ergyd o 25 llathen gan Craig Noone oedd wedi sicrhau pwynt i’r Adar Gleision.