Fe fydd gêm Ewropeaidd Y Seintiau Newydd yn erbyn Videoton FC nos fory yn cael ei dangos yn fyw ar y teledu wedi i S4C gadarnhau eu bod nhw wedi sicrhau’r hawliau darlledu.

Mae’r ddau dîm yn wynebu ei gilydd yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr nos Fawrth yng Nghroesoswallt, cyn i’r Seintiau deithio i Hwngari wythnos nesaf ar gyfer yr ail gymal.

Ac fe fydd camerâu Sgorio yn Neuadd y Parc ar gyfer y cymal cyntaf ar 14 Gorffennaf, gyda’r rhaglen fyw yn dechrau am 6.45pm a’r gic gyntaf am 7.00pm.

Gobeithio am ragor o hanes

Fe enillodd Y Seintiau Newydd o 6-2 dros ddau gymal yn rownd ragbrofol cyntaf y gystadleuaeth, wedi buddugoliaethau o 2-1 a 4-1 dros B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro.

Fe fyddan nhw nawr yn wynebu pencampwyr cynghrair Hwngari, Videoton, yn yr ail rownd a hynny ar ôl iddyn nhw eisoes ysgrifennu ychydig o hanes i’r clwb wrth ennill eu gêm Ewropeaidd cyntaf oddi cartref.

Dyw’r clwb, sydd eisoes wedi gwneud dros £500,000 o’u hymgyrch Ewropeaidd hyd yn hyn, erioed wedi mynd yn bellach nag ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth o’r blaen.

‘Ymrwymiad’ y sianel

Roedd rhai cefnogwyr wedi mynegi siom bod S4C heb lwyddo i ddangos gemau blaenorol y Seintiau Newydd na chwaith gemau Airbus, Y Drenewydd a’r Bala hyd yn hyn yng Nghynghrair Ewropa.

Ond yn ôl un o benaethiaid chwaraeon y sianel mae sicrhau hawliau ar gyfer dangos gêm y Seintiau yn yr ail rownd ragbrofol yn dangos “ymrwymiad” S4C i ddarlledu pêl-droed.

“Rydym yn falch iawn o allu darlledu’r gêm ragbrofol hon yng Nghynghrair y Pencampwyr, “ meddai Sue Butler Pennaeth Hawliau Chwaraeon S4C.

“Mae perfformiad Y Seintiau Newydd yn y gystadleuaeth hyd yma yn dangos faint mae Uwch Gynghrair Cymru yn datblygu.

“Mae’r darllediad yn adlewyrchu’n hymrwymiad yn S4C i ddangos pêl-droed Cymru, sy’n cynnwys uchafbwyntiau gemau rhagbrofol Cymru yn Euro 16 a’n darlledu wythnosol byw o Uwch Gynghrair Cymru y Dafabet.”