Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar ôl buddugoliaeth hanesyddol yn Neuadd y Parc neithiwr.
Llwyddodd tîm Craig Harrison i drechu B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro o 4-1, gyda’r ymosodwr Michael Wilde yn sgorio hat-tric.
Roedd y Seintiau eisoes wedi ennill y cymal cyntaf oddi cartref o 2-1, ac mae’r fuddugoliaeth nawr yn golygu y byddan nhw’n wynebu pencampwyr Hwngari, Videoton FC, yn y rownd nesaf.
Bydd y cymal cyntaf yn erbyn Videoton yn cael ei chwarae yng Nghroesoswallt ar 14 Gorffennaf, gyda’r ail gymal draw yn Hwngari ar 22 Gorffennaf.
Buddugoliaeth gyfforddus
Gyda gôl o fantais o’r cymal cyntaf roedd Y Seintiau Newydd yn gwybod fod y pwysau ar yr ymwelwyr i geisio sgorio.
Ond roedd pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn gyfforddus o’r cychwyn ac erbyn hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf roedd Wilde wedi rhwydo dwy gôl a methu dau gyfle da arall.
Cwblhaodd yr ymosodwr ei hat-tric yn fuan wedi’r egwyl cyn i Matty Williams ychwanegu’r bedwaredd yn hwyr yn y gêm.
Roedd dal amser i Lukasz Cieslewicz – brawd asgellwr Y Seintiau, Adrian – sgorio gôl gysur i B36 Torshavn, ond y clwb o Gymru sydd wedi cyrraedd yr ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth a hynny am ddim ond yr ail dro yn eu hanes.
‘Teimlad arbennig’
Yn naturiol, roedd ymosodwr Y Seintiau Newydd Michael Wilde wrth ei fodd â’r fuddugoliaeth a’i goliau ar ddiwedd y gêm.
“Yn gyntaf roedd y perfformiad jyst beth roedden ni eisiau, ac roedd y goliau yn fonws,” meddai Wilde.
“Mae hyd yn oed cael un gôl yng Nghynghrair y Pencampwyr yn hyfryd, ond mae cael tair yn arbennig iawn.”
Yn ôl cyfarwyddwr pêl-droed y Seintiau, Craig Harrison, roedd yn un o’i nosweithiau gorau erioed mewn pêl-droed.
“Waw, teimlad gwych ennill dau gymal rownd yng Nghynghrair y Pencampwyr gyda’r Seintiau Newydd, reit fyny yna os nad y gorau yn fy holl yrfa pêl-droed,” meddai Harrison ar Twitter.