Stadiwm y Mileniwm
Mae’n debyg bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn awyddus i drefnu gêm gyfeillgar arbennig yn erbyn un o dimau pêl-droed mawr y byd yn Stadiwm y Mileniwm, fel rhan o’u paratoadau pe byddai’r garfan genedlaethol yn cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016.
Fe fydd gemau ail gyfle grwpiau rhagbrofol Ewro 2016 yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd – gemau na fyddai’r garfan na’r cefnogwyr yn awyddus i’w chwarae, gan obeithio cyrraedd Ffrainc yn weddol gyfforddus.
Dychwelyd i’r Mileniwm
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf ers y golled yn erbyn Lloegr nol yn 2011, gan obeithio denu cefnogwyr yn eu miloedd i wylio Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn dangos eu doniau yn erbyn un o dimau gorau’r byd.
Ariannin yn bosibilrwydd cryf
Un o’r gwledydd sydd wedi cael eu crybwyll i herio Cymru mewn gêm gyfeillgar yw’r Ariannin.
Mae’r Ariannin wedi cael ei grybwyll yn gyson fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd ers y mewnlifiad cyntaf o Gymry i Batagonia. Y tro diwethaf i’r Ariannin herio Cymru oedd nol yn 2002 mewn gêm gyfeillgar pan orffennodd y sgôr 1-1, diolch i gôl gan Craig Bellamy o flaen torf o dros 62,000 yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae’r newyddion yn dilyn sïon cadarnhaol o UEFA y gall Stadiwm y Mileniwm gynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017.