Y tlysau Ewropeaidd
Fe fydd CPD Airbus yn teithio i Croatia i herio NK Lokomotiva Zagreb yn rownd rhagbrofol cyntaf Cynghrair Ewropa eleni.

Gorffennodd NK yn bedwerydd yn eu cynghrair nhw eleni, ond hon fydd yr ail waith yn unig iddyn nhw chwarae pêl-droed Ewropeaidd.

Bydd Y Drenewydd yn herio FC Valetta, a ddaeth yn ail yng nghynghrair Malta eleni, ac fe fydd Y Bala yn teithio i Lwcsembwrg i chwarae yn erbyn FC Differdange 03 a orffennodd yn ail yn eu cynghrair nhw y tymor yma.

Mae gemau rownd rhagbrofol cyntaf y gystadleuaeth yn cael eu chwarae ar 2 a 9 Gorffennaf.

Petai timau Cymru yn llwyddo i ennill yn y rownd gyntaf, yn yr ail rownd fe fyddai Airbus yn wynebu PAOK Salonkia o Wlad Groeg, Bala yn wynebu Trabzonspor o Twrci a’r Drenewydd yn wynebu FC Kobenhavn o Denmarc.

Yn gynharach heddiw fe glywodd Y Seintiau Newydd, pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru eleni, mai B36 Torshavn o Ynysoedd y Faro fyddai eu gwrthwynebwyr nhw yn rownd rhagbrofol cyntaf Cynghrair y Pencampwyr.