Chris Coleman
Mae James Chester a Paul Dummett yn dychwelyd i garfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mai.

Mae Andy King hefyd yn dychwelyd ar ôl methu’r ddau gêm ddiwethaf oherwydd gwaharddiad.

Cafodd sêr mawr Cymru gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen eu cynnwys yn y garfan, ond does dim lle i James Collins, Ben Davies, Jonny Williams, Emyr Huws na George Williams oherwydd anaf.

Dyw’r ymosodwr 16 oed Tyler Roberts heb gael ei enwi ond fe fydd e, Harry Wilson, Declan John a Gethin Jones yn ymarfer gyda’r garfan.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Owain Fon Williams (dim clwb), Daniel Ward (Lerpwl)

Ashley Williams (Abertawe), James Chester (Hull City), Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle United), Adam Henley (Blackburn Rovers), Ashley Richards (Abertawe), Adam Matthews (Celtic)

Joe Allen (Lerpwl), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest), Andy King (Caerlŷr), Shaun MacDonald (Bournemouth)

David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (Reading), Tom Lawrence (Caerlŷr), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Sam Vokes (Burnley).