Gareth Bale
Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Real Madrid yn defnyddio’r asgellwr o Gymru Gareth Bale fel bwch dihangol, yn ôl cyn-chwaraewr canol cae Lloegr Ray Wilkins.

Roedd yn siarad ar ôl i gefnogwyr Real Madrid feirniadu’r Cymro am fethu sawl siawns am gôl yn ystod semi-ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn erbyn Juventus.

“Rwy’n teimlo trueni dros Gareth,” meddai Wilkins fu’n chwarae i Man U, Chelsea ac AC Milan, “dw i’n meddwl bod pobol yn ei ddefnyddio fel bwch dihangol.

“Cafodd dymor cyntaf gwych y llynedd ac mi fyddai hi wastad wedi bod yn anodd cynnal y safon hwnnw eleni. Mae o wedi cael ambell i gêm wael ond mae’r pethau yma’n digwydd.

“Mae hi’n sialens enfawr chwarae mewn gwlad dramor – mae’r cefnogwyr yn hoffi gweld chwaraewyr o wledydd eraill yn gwneud gwahaniaeth mawr.”

Daeth Gareth Bale, 25, yn chwaraewr drutaf y byd wedi iddo arwyddo hefo Real Madrid ym mis Medi 2013 am £85.3 miliwn.

Er y feirniadaeth ddiweddar, mae ei asiant Jonathan Barnett yn mynnu na fydd y Cymro yn gadael Sbaen, er gwaetha sawl stori bapur newydd ei fod am ymuno gyda Man U neu Chelsea.