Mae rheolwr Casnewydd Terry Butcher wedi cyhoeddi y bydd 12 o chwaraewyr yn cael eu rhyddhau gan y clwb ar ddiwedd y tymor.

Bydd chwaraewyr fel Lee Minshull, Aaron O’Connor, Lenny Pidgeley ac Ismail Yakubu, a helpodd y tîm i ennill dyrchafiad o’r Gyngres ddwy flynedd yn ôl, yn gadael.

Yn ogystal â hynny mae Shaun Jeffers, Joe Parker, Max Porter, Andrew Sandell, Jamie Stephens, Robbie Willmott, Mike Flynn a Kyle Patten wedi cael gwybod na fyddan nhw’n cael cytundebau newydd.

Mae’r chwaraewr canol cae Adam Chapman hefyd wedi gwrthod cynnig o gytundeb newydd gyda’r clwb.

Rhai yn aros

Mae’r rheolwr newydd, gafodd ei benodi ychydig wythnosau yn ôl, wedi cynnig cytundebau newydd i Darren Jones, Ryan Jackson ac Andrew Hughes.

Ac mae Joe Day, Mark Byrne, Kevin Feely, Yan Klukowski, Aaron Collins, Tom Owen-Evans a Kieran Parselle eisoes ar gytundebau gyda Chasnewydd ar gyfer y tymor nesaf.

“Efallai ei bod hi’n teimlo fel diwedd cyfnod, ac rwy’n sicr yn cydymdeimlo â’r chwaraewyr a’r cefnogwyr,” meddai Terry Butcher ar ôl siarad â’r chwaraewyr ddoe.

“Mae llawer o’r chwaraewyr wedi bod yn weision ffyddlon i Glwb Pêl-droed Casnewydd ac rydw i eisiau talu teyrnged i beth maen nhw wedi ei gyflawni. Dyna beth ddywedais i wrthyn nhw.

“Ond maen nhw wedi sicrhau eu lle yn hanes Casnewydd nawr, a fydd hynny byth yn newid.”