Carl Darlington
Mae Wrecsam wedi rhydau eu hyfforddwr Carl Darlington a’r capten Dean Keates wrth i’r clwb baratoi ar gyfer tymor nesaf yn y Gyngres.
Yn ôl BBC Sport fe gafodd y penderfyniad i adael i Darlington fynd ei wneud gan y rheolwr newydd Gary Mills, ac fe fydd yr hyfforddwr Michael Oakes hefyd yn gadael.
Fydd y clwb ddim chwaith yn cynnig cytundeb newydd i Dean Keates, gyda’r capten yn gadael ar ôl pum mlynedd gyda Wrecsam.
Ond mae’r chwaraewr canol cae Jay Harris wedi cael cynnig cytundeb newydd gan y clwb ar gyfer y tymor nesaf.
Smith yn aros
Yr wythnos diwethaf fe gadarnhaodd Wrecsam bod yr amddiffynnwr Manny Smith wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r chwaraewyr eraill sydd ar gytundeb ar gyfer y tymor nesaf hefyd yn cynnwys Mark Carrington, Robbie Evans, Blaine Hudson, Louis Moult, Steve Tomassen, Luke Waterfall, Ross White a Wes York.
Mae Andy Coughlin, Louis Gray, Connor Jennings, Jonathan Royle a Sean Smith hefyd wedi cael cynnig cytundebau newydd.
Ond mae’r clwb eisoes wedi cadarnhau bod croeso i Theo Bailey-Jones, Nick Rushton, Anthony Stephens a Ross Weaver chwilio am glybiau newydd.