Gareth Bale (llun: Adam Davy/PA)
Mae gobeithion Gareth Bale o ennill La Liga gyda Real Madrid y tymor hwn yn llithro i ffwrdd, wedi i’r cewri o Sbaen gael gêm gyfartal gartref yn erbyn Valencia.

Roedd yr ymwelwyr 2-0 ar y blaen ar yr egwyl cyn i Ronaldo fethu cic o’r smotyn i Real, a Bale yn un o’r chwaraewyr darodd y postyn i Los Blancos yn ystod y gêm.

Ond yn yr ail hanner fe achubwyd pwynt gyda goliau gan Pepe ac Isco, gyda Bale yn creu’r ail.

Serch hynny, gyda Real Madrid pedwar pwynt y tu ôl i Barcelona a dwy gêm yn weddill, mae’n edrych fel bod eu gobeithion o gipio’r gynghrair ar ben.

Yn yr Uwch Gynghrair, mae Sam Vokes a Burnley wedi disgyn i’r Bencampwriaeth er gwaethaf buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Hull ddydd Sadwrn.

Ond roedd y canlyniad hwnnw’n un gwael i James Chester hefyd, gan fod Hull bellach yn ffefrynnau i ymuno â QPR a Burnley yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Fe allai Newcastle hefyd fod mewn perygl o ddisgyn, ond ar ôl colli wyth gêm yn olynol fe lwyddodd tîm Paul Dummett i gipio pwynt o’r diwedd wedi iddo orffen yn 1-1 yn erbyn Boaz Myhill a West Brom.

Cymrodd Caerlŷr gam mawr yn eu hymgais i aros yn y gynghrair gyda buddugoliaeth dros Southampton, er nad oedd Andy King yn ffit i chwarae.

Chwaraeodd James Collins gêm lawn i West Ham wrth iddyn nhw golli 1-0 i Aston Villa, a hwythau bellach yn saff o le yng nghanol y tabl.

Cafodd Joe Ledley ei eilyddio ar yr egwyl wrth i Crystal Palace golli 2-1 i Man United, ac fe arhosodd Joe Allen ar y fainc i Lerpwl wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn Chelsea.

Yn yr Alban, fe ddathlodd Celtic y ffaith eu bod nhw wedi ennill y gynghrair gyda buddugoliaeth dros Aberdeen fydd yn gorffen yn ail, gydag Adam Matthews ac Ash Taylor yn chwarae.

Ac fe sicrhaodd Marley Watkins ac Inverness y byddan nhw’n gorffen yn drydydd yn y gynghrair gyda buddugoliaeth o 1-0 dros Dundee, oedd â Kyle Letheren yn y gôl.

Seren yr wythnos – Paul Dummett. Pwynt hollbwysig i Newcastle, ac fe allan nhw ddiolch i Dummett am glirio un ergyd oddi ar y lein.

Siom yr wythnos – Sam Vokes. Gwylio o’r fainc wrth i Burnley fynd lawr, ond gobeithio y bydd yn cael cyfle i danio unwaith eto yn y Bencampwriaeth tymor nesaf.