Scarlets 16–6 Gleision

Camodd Bois y Sosban yn ôl i chwech uchaf y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth dros y Gleision ar Barc y Scarlets brynhawn Sul.

Sicrhaodd cais ail hanner Ken Owens y fuddugoliaeth sydd yn eu rhoi o fewn cyrraedd prif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Hanner Cyntaf

Digon cyfartal oedd hi yn yr ugain munud cyntaf, cyn i gic gosb Rhys Patchell roi’r Gleision ar y blaen yn dilyn cerdyn melyn i Liam Williams.

Y tîm cartref oedd y tîm gorau am weddill yr hanner serch hynny gyda rhan helaeth o’r gêm yn cael ei chwarae yn nau ar hugain y Gleision.

Ond doedd dim cais i fod i’r Scarlets cyn yr egwyl er gwaethaf eu goruchafiaeth a bu rhaid iddynt fodloni ar chwe phwynt o fantais diolch i dair cic gosb o droed Rhys Priestland.

Ail Hanner

Dechreuodd y Gleision yr ail hanner yn fwy pwrpasol, hwy oedd y tîm gorau am y deg munud cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu cau’r bwlch i dri phwynt gydag ail gic lwyddiannus Patchell.

Cafodd Patchell gyfle i ddod â’i dîm yn gyfartal ar yr awr yn dilyn trosedd gan Jake Ball ond methu oedd hanes y maswr gyda chynnig syml o flaen y pyst.

Ychydig funudau’n ddiweddarach roedd deg pwynt o fwlch rhwng y ddau dîm wedi i Priestland drosi cais ei gapten, Ken Owens, bachwr y Scarlets yn tirio yn dilyn sgarmes symudol rymus.

Digon diflas oedd y diweddglo wedi hynny gyda Bois y Sosban yn bodloni ar y fuddugoliaeth heb y pwynt bonws.

Mae’r fuddugoliaeth yn unig yn ddigon i’w codi yn ôl dros Connacht i’r chweched safle yn nhabl y Guinness Pro12 gydag un gêm i fynd. Bydd dau bwynt yn ddigon i Fois y Sosban felly yn erbyn Treviso yn yr Eidal yr wythnos nesaf i sicrhau eu lle ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.

Mae’r Gleision ar y llaw arall yn sicr o orffen yn ddegfed gyda’i cyfanswm pwyntiau gwaethaf erioed.
.
Scarlets
Ceisiau:
Ken Owens 66’
Trosiadau: Rhys Priestland 67’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 26’, 32’, 39’
Cerdyn Melyn: Liam Williams 19’
.
Gleision
Ciciau Cosb:
Rhys Patchell 20’, 43’