Gary Monk
Mae rheolwr Abertawe Garry Monk wedi wfftio awgrymiadau y byddai’n ystyried symud i West Ham ar ddiwedd y tymor, gan fynnu ei fod yn ffodus i gael y swydd sydd ganddo.

Dywedodd y rheolwr 36 oed, a gymrodd yr awenau yn Stadiwm Liberty y llynedd, ei fod eisiau “aros ac adeiladu” dyfodol llewyrchus i’r clwb.

Ond fe gyfaddefodd hefyd ei fod yn “uchelgeisiol” ac eisiau cyflawni pethau gwahanol yn ystod ei yrfa yn y byd pêl-droed.

‘Dim brys’

Wrth siarad cyn gêm Abertawe yn erbyn Caerlŷr yfory, dywedodd Monk nad oedd ar unrhyw frys i edrych am gyfle arall yn y byd hyfforddi.

“Dw i’n uchelgeisiol ac fe fyddai’n neis mynd i wneud pethau yn y gêm, ond does dim brys gen i,” meddai’r rheolwr a chwaraeodd 270 o weithiau dros yr Elyrch.

“Dw i eisiau aros ac adeiladu rhywbeth a beth sy’n bwysig yw fy mherthynas i gyda’r clwb.

“Cyn i mi gael y swydd yma roeddwn i wedi meddwl am hyfforddi neu reoli’r clwb yma a gweithio fy ffordd lan … ond roeddwn i’n meddwl y byddai hynny ymhell yn y dyfodol.

“Ond o ran adeiladu rhywbeth hir dymor mae hynny’n cymryd amser a dw i ddim mewn brys.”

Tymor gorau erioed?

Mae Abertawe’n wythfed yn yr Uwch Gynghrair ac os ydyn nhw’n aros yn y safle hwnnw nes diwedd y tymor dyna fyddai eu safle uchaf erioed yn y tabl.

Mae’r tîm eisoes wedi casglu 47 o bwyntiau’r tymor hwn, yn hafal â’u record gorau erioed yn y gynghrair.

Bydd yr Elyrch yn teithio i Gaerlŷr yfory heb Bafetimbi Gomis, Tom Carroll a Kyle Naughton sydd i gyd wedi anafu.

Mae Neil Taylor hefyd wedi’i wahardd, ac mae Dwight Tiendalli a Jazz Richard allan ar fenthyg, sydd yn golygu nad oes gan Abertawe gefnwr chwith ffit ar gyfer y gêm.

Marvin Emnes a Nelson Oliveira sydd yn debygol o gystadlu i lenwi esgidiau Gomis yn yr ymosod, ac fe allai Jordi Amat lenwi bwlch yn yr amddiffyn dros dro.