Mae trac beicio newydd sy’n cynnwys rhannau o’r trac BMX gafodd ei ddefnyddio yng Ngemau Olympaidd Llundain wedi agor yng Ngwynedd.

Syniadau pobol ifanc leol sydd wedi ysbrydoli’r prosiect gwerth £183,000 ar safle Gloddfa Glai yn Nhalysarn, yn ôl Clwb Rasio BMX y pentref.

Mae wedi cael ei ddylunio gan y Contractwyr Clark & Kent, a ddyluniodd drac beicio Gemau Olympaidd 2012 ac wedi ei gyllido gan Fantell Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru Cartrefi Cymunedol Gwynedd, CIST Gwynedd a Magnox.

Atyniad arall yw’r giât gychwyn ar y trac, sef yr union un gafodd ei defnyddio yn y Gemau Olympaidd yn 2012.

‘Llawer iawn o ddefnydd’

“Mae’n wych gweld y trac wedi agor, ac rwy’n siŵr y bydd yn cael llawer iawn o ddefnydd,” meddai aelod o Bwyllgor Clwb Rasio BMX Talysarn, Dale Beck.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion y pentref am ddiodde’r sŵn a’r oedi ar y ffyrdd yn ystod y cyfnod adeiladu.”

Fe fydd sesiynau diogelwch yn cael eu cynnal i ddefnyddwyr a bydd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal yn yr haf.