Mae capten Morgannwg, Jacques Rudolph wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i’w yrfa yn Ne Affrica.

Cafodd Rudolph ei benodi’n gapten ar Forgannwg ar gyfer y tymor hwn, ac mae ganddo flwyddyn yn weddill o’i gytundeb presennol gyda’r sir.

Mae’r batiwr agoriadol wedi bod yn rhannu ei amser rhwng Morgannwg a’r Titans yn Ne Affrica.

Dydy Rudolph ddim wedi cynrychioli De Affrica ar y llwyfan rhyngwladol ers 2012.

Gadawodd Rudolph Dde Affrica am y tro cyntaf yn 2007 i chwarae dros Swydd Efrog ar gytundeb Kolpak.

Ond ar ôl tair blynedd, dychwelodd i’w famwlad yn y gobaith o adennill ei le yn y tîm cenedlaethol.

Derbyniodd Rudolph gytundeb canolog gan Fwrdd Criced De Affrica, ond fe gafodd ei dynnu oddi ar y rhestr yn 2013 pan oedd yn dal i chwarae dros y Titans.

Roedd Rudolph yn cynrychioli Morgannwg yn Edgbaston heddiw ar ddiwrnod lansio cystadleuaeth y T20.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd: “Diwedd pennod wych yng nghriced De Affrica. Diolch i bawb oedd wedi’i wneud yn bosib i fi.”