Ramsey (chwith) ac Olivier Giroud yn dathlu'r gôl (llun: Dave Howarth/PA)
Aaron Ramsey
oedd sgoriwr unig gôl y gêm wrth i Arsenal drechu Burnley 1-0, er gwaethaf ymdrechion Sam Vokes yn ymosod y tîm cartref.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Gunners yn ail yn y tabl ac yn cadw’u rhediad da diweddar i fynd.

Cryfhaodd Abertawe eu gafael ar yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Everton.

Ond roedd rhaid iddyn nhw frwydro am y pwynt gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn cael cardiau melyn.

Daeth Andy King oddi ar y fainc gyda 30 munud i fynd o’r gêm rhwng West Brom a Chaerlŷr, gan helpu ei dîm i wyrdroi’r canlyniad wrth iddyn nhw gipio dwy gôl hwyr i ennill 3-2 yn erbyn tîm Boaz Myhill.

Erbyn i Joe Ledley ddod oddi ar y fainc i Crystal Palace ar ôl 69 munud roedd ei dîm eisoes 4-0 ar y blaen yn erbyn Sunderland, ac fe orffennon nhw’r gêm gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref.

Dechreuodd James Chester ei gêm gyntaf i Hull ers gwella o anaf i’w ysgwydd, ond yn anffodus i’w dîm fe gollon nhw 2-0 yn erbyn Southampton.

Chwaraeodd James Collins gêm lawn i West Ham wrth iddyn nhw ildio gôl hwyr mewn gêm gyfartal 1-1 gyda Stoke.

Ond fe fethodd Gareth Bale fuddugoliaeth Real Madrid o 3-0 yn erbyn Eibar gydag anaf, ond mae disgwyl iddo fod yn ffit ar gyfer y gêm yn erbyn Atletico Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr yr wythnos hon.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth roedd David Cotterill a Birmingham yn fuddugol yn y ddarbi leol yn erbyn Wolves, a gadwodd Dave Edwards ar y fainc.

Daeth Jonny Williams oddi ar y fainc wrth i Ipswich ennill 3-2 yn erbyn Blackpool, ond doedd ymddangosiad Steve Morison ddim yn ddigon i Leeds gipio pwynt yn erbyn Caerdydd.

Colli 1-0 wnaeth David Vaughan a Nottingham Forest yn erbyn Huddersfield a Joel Lynch, ac roedd hi’n ddi-sgôr rhwng Reading a Blackburn gyda Chris Gunter, Hal Robson-Kanu ac Adam Henley i gyd yn chwarae.

Ac fe chwaraeodd Morgan Fox a Simon Church i Charlton wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Sheffield Wednesday.

Yn yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews a Marley Watkins, ac yng Nghynghrair Un fe chwaraeodd Lewin Nyatanga, James Wilson, Gwion Edwards, Chris Maxwell a Tom Bradshaw, gyda Bradshaw yn sgorio unig gôl y gêm i Walsall.

Seren yr wythnos – Aaron Ramsey. Gôl arall i’r chwaraewr canol cae, sydd wedi bod yn chwarae’n dda yn ddiweddar.

Siom yr wythnos – Boaz Myhill. West Brom bellach wedi ildio deg gôl mewn tair gêm ers iddo ddechrau rhwng y pyst.