Iolo Cheung
Iolo Cheung sydd yn cymryd cip ar wrthwynebwyr Cymru yfory…

Mae’r cyffro wedi bod yn adeiladu drwy’r wythnos, a phrynhawn fory am bump o’r gloch fe fydd Cymru’n camu i’r cae yn Haifa i wynebu Israel mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 allweddol.

Bydd Israel, wrth gwrs, yn edrych ar dîm Cymru ac yn gweld wynebau cyfarwydd o rhai o glybiau mwyaf Ewrop gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey a Joe Allen.

Ond beth ydyn ni’n ei wybod am yr Israeliaid? Pa fath o hanes pêl-droed sydd ganddyn nhw, a phwy yw’r prif fygythiadau yn eu tîm presennol?

1958

Mae gan Gymru ac Israel hanes tebyg pan mae’n dod at bêl-droed rhyngwladol – dim ond unwaith yr un (Cymru yn 1958, Israel yn 1970) y mae eu timau erioed wedi cyrraedd Cwpan y Byd.

Ond roedd gan Israel rhan bwysig i’w chwarae yn sut gyrhaeddodd Cymru’r twrnament hwnnw 57 mlynedd yn ôl.

Doedd Cymru ddim wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd drwy’r grŵp rhagbrofol (stori gyfarwydd wrth gwrs) ar ôl gorffen yn ail i Tsiecoslofacia.

Roedd Israel ar y llaw arall wedi ennill eu lle drwy ragbrofion Asia, a hynny am fod timau wedi tynnu nôl neu wedi gwrthod chwarae yn eu herbyn am resymau gwleidyddol.

Ond doedd FIFA ddim yn fodlon gadael i Israel fynd i Gwpan y Byd heb chwarae gêm, felly fe wnaethon nhw fynnu y byddai’n rhaid iddyn nhw chwarae gêm ail gyfle yn erbyn tîm o Ewrop.

Mewn a’r enwau i’r het felly i benderfynu pwy oedd yn herio Israel – a Gwlad Belg yn dod allan gyntaf, ond hefyd yn gwrthod eu chwarae oherwydd gwleidyddiaeth.

Nesaf ddaeth Cymru, a dderbyniodd y cynnig, a threchu Israel 2-0 gartref ac oddi cartref i sicrhau eu lle yn y twrnament.

Dim ond dwywaith yn rhagor mae’r ddwy wlad wedi chwarae ei gilydd ers hynny, ac mae’n bosib iawn y bydd yn rhaid i Gymru drechu Israel unwaith eto os ydyn nhw am ailadrodd hanes a chyrraedd twrnament rhyngwladol y tro hwn.

Brwydro ar y brig

Nôl i’r presennol, ac mae pethau’n edrych yn ddiddorol iawn ar frig Grŵp B wrth i’r timau frwydro i gyrraedd Ewro 2016.

Israel sydd ar y brig gyda naw pwynt ar ôl ennill tair allan o dair, gyda Chymru’n ail ar wyth, Cyprus yn drydydd ar chwech, a Gwlad Belg yn bedwerydd ar bump.

Tridiau ar ôl herio Cymru fe fydd Israel yn croesawu Gwlad Belg, y ffefrynnau, ac ar ôl hynny fe fyddan ni hanner ffordd drwy’r ymgyrch gyda phawb wedi chwarae ei gilydd unwaith.

Bydd y ddau uchaf ar ddiwedd yr ymgyrch yn cyrraedd Ffrainc a’r trydydd yn sicrhau gêm ail gyfle – a pheidiwch anghofio am Bosnia, y prif ddetholiadau sydd yn bumed ar ôl dechrau’r grŵp yn wael.

Mae Israel wedi synnu llawer wrth arwain y grŵp hyd yn hyn, er bod ganddyn nhw y gemau anoddaf oddi cartref yng Ngwlad Belg, Bosnia a Chymru dal i ddod.

Ond does dim amheuaeth eu bod nhw wedi gwella fel tîm dros y blynyddoedd diwethaf – nôl yn 2012 roedden nhw’n 82fed yn netholiadau’r byd, ond maen nhw bellach fyny i 26ain.

Pwy sydd yn eu carfan?

Bydd y rhan fwyaf o’r chwaraewyr yng ngharfan Israel yn rai anghyfarwydd, gyda nifer yn chwarae i glybiau yng nghynghrair Israel ac eraill yn ennill eu bara menyn mewn clybiau llai yn yr Almaen, Y Swistir a Gwlad Belg.

Mae Tal Ben Haim, sydd bellach yn Charlton, dal yn gapten ar y tîm ac fe fydd cefnogwyr Abertawe hefyd yn cofio’r ymosodwr Itay Shechter o’i gyfnod byr ac aflwyddiannus yn ne Cymru.

Eran Zahavi yw’r seren yng nghanol cae Israel, a phrif sgoriwr Uwch Gynghrair Israel ar hyn o bryd.

Mae Lior Refaelov (Club Brugge), Bibras Natkho (CSKA Moscow) a Nir Biton (Celtic) hefyd ymysg y chwaraewyr canol cae sydd wedi gwneud argraff i’w clybiau’r tymor hwn.

Omer Damari yw prif sgoriwr Israel yn yr ymgyrch hyd yn hyn, ond dydi o heb rwydo i’w glwb ers mis Tachwedd, tra bod Ben Sahar (gynt o Chelsea) a Tal Ben Haim II (oes, mae yna ddau) yn fygythiadau ar yr esgyll.

Heblaw am y capten Ben Haim, mae amddiffyn Israel yn gymharol ddibrofiad gyda phob un ar lai nag 20 cap i’w gwlad.

Eu golwr yw Ofir Marciano o glwb Ashdod, sydd wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf ac ildio deg gôl yn y cyfnod hwnnw, felly nid yw ei hyder ar ei uchaf.

Mae ambell chwaraewr ganddyn nhw ar goll hefyd – Gil Vermouth wedi anafu, Yossi Benayoun wedi ei adael allan, ac Eliran Atar wedi ffraeo gyda’r hyfforddwr.

Mae’r Israeliaid wedi bod yn pwysleisio eu bod nhw’n dîm agos heb unrhyw sêr amlwg, a nhw ydi’r ffefrynnau gan y bwcis i ennill yfory.

Ond dim ond un gêm o’u naw diwethaf y mae Cymru wedi colli, ac fe fyddan nhw’n benderfynol o ddychwelyd o Haifa gydag o leiaf gêm gyfartal – a gobeithio am y tri phwynt.