Alun Wyn Jones
Mae’r Gweilch wedi gadael pedwar o sêr rhyngwladol Cymru ar y fainc wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Zebre i Stadiwm y Liberty nos yfory.

Bydd Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Rhys Webb a Dan Biggar ymysg yr eilyddion wrth i’r Gweilch barhau â’u hymgais i orffen ym mhedwar uchaf y Pro12.

Justin Tipuric fydd y capten wrth i’r hyfforddwr Steve Tandy gadw ffydd â’r chwaraewyr sydd wedi bod yn perfformio’n gyson i’r tîm dros y cyfnod rhyngwladol.

“Mae’n grêt gallu croesawu bechgyn Cymru nôl,” meddai Steve Tandy.

“Maen nhw wedi do nôl mewn i bethau heb unrhyw ffws ac wedi ymarfer yn dda’r wythnos hon, ond dydyn nhw heb ei chael hi’n hawdd a dyna’n union sut ddylai hi fod.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Tom Grabham, Jonathan Spratt, Josh Matavesi, Hanno Dirksen, Sam Davies, Tom Habberfield; Ryan Bevington, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers, Tyler Ardron, James King, Justin Tipuric (capt), Dan Baker.

Eilyddion: Scott Otten, Nicky Smith, Dmitri Arhip, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Rhys Webb, Dan Biggar, Ben John.