Hir yw pob aros, ac mae cefnogwyr Cymru’n sicr wedi bod yn aros sbel ers gêm diwethaf y tîm rhyngwladol, pan gipiodd bechgyn Chris Coleman bwynt gwerthfawr yng Ngwlad Belg.

Ond mae ymgyrch Ewro 2016 nôl yr wythnos hon, gyda thaith Cymru i Israel – ac mae Pod Pêl-droed Golwg360 hefyd nôl i gymryd cip ar y gêm fawr.

Owain Schiavone, Iolo Cheung a Llew Williams sydd yn sgwrsio yr wythnos hon wrth iddyn nhw edrych ar garfan Cymru, trafod pwy fydd yn dechrau, ac asesu bygythiad Israel.

Mae cyn-chwaraewr Cymru Owain Tudur Jones hefyd yn rhoi ei farn o am y gêm ac ystyried a fydd Cymru’n dychwelyd gyda’r tri phwynt – bydd mwy o’r cyfweliad gydag Owain Tudur Jones yn Golwg yr wythnos hon.

Ac yn ogystal â chroesi bysedd na fydd unrhyw anafiadau pellach i’r garfan, mae’r tri yn edrych ar helynt Gareth Bale a thrafod llwyddiant diweddar Abertawe.