Jack Collison
Mae cyn-chwaraewr canol cae West Ham Jack Collison wedi dweud nad ydi o wedi rhoi’i gorau i’w obeithion o chwarae dros Gymru unwaith eto.

Dydi Collison heb chwarae gêm ers mis Mai y llynedd, ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg yn Wigan, oherwydd anaf i’w ben-glin sydd wedi ei boenydio drwy ei yrfa.

Dywedodd y chwaraewr 26 oed wrth BBC Sport ei fod yn gobeithio canfod clwb newydd yn yr haf, ac y gallai hynny ei arwain nôl i garfan Cymru mewn “blwyddyn neu ddwy”.

Mae’r tîm cenedlaethol ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2016 allweddol yn erbyn Israel dydd Sadwrn.

Wedi cael cynigion

Mae Collison, oedd yn ymarfer gydag Ipswich yn gynharach yn y tymor, wedi cael cynigion i chwarae i glybiau cyn diwedd y tymor.

Ond dywedodd y chwaraewr ei fod am aros nes yr haf cyn gwneud penderfyniad, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn ffit gyntaf.

“Dw i wedi penderfynu cymryd ychydig o amser allan er mwyn gwneud yn siŵr mod i wedi gwella o’r anafiadau,” meddai Collison.

“Dw i am aros nes dechrau’r tymor a cheisio mynd nôl fewn i bethau ar ddechrau flwyddyn nesaf.”

Mae gan Collison 17 cap dros Gymru, ond y tro diwethaf iddo chwarae dros ei wlad oedd nôl yn 2013.

Dydi o heb roi’r gorau i’w obeithion o ychwanegu at hynny fodd bynnag.

“Os alla’i fynd nôl i berfformio ar lefel dda, dw i ddim yn gweld rheswm pam alla’i ddim ceisio cael fy lle nôl,” meddai Collison.

“Falle wnaiff e gymryd blwyddyn neu ddwy. Dw i wrth fy modd yn chwarae dros Gymru. Pwy fyddai ddim eisiau chwarae pêl-droed rhyngwladol?”