Casnewydd 1–1 Cheltenham

Collodd Casnewydd gyfle da i ddychwelyd i safleoedd ail gyfle’r Ail Adran wrth i Cheltenham ymweld â Rodney Parade nos Wener.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn y tîm sy’n drydydd o waelod y tabl wedi codi Casnewydd i’r seithfed safle ond maent yn aros yn nawfed ar ôl gêm gyfartal gôl yr un.

Cheltenham aeth ar y blaen a hynny wedi dim ond 13 munud, y Cymro, Wes Burns yn rhwydo wedi dryswch yn amddiffyn y tîm cartref.

Roedd Casnewydd yn gyfartal cyn yr egywl serch hynny diolch i beniad Miles Storey o groesiad Ryan Jackson saith munud o ddiwedd yr hanner.

Casnewydd gafodd y gorau o’r gêm wedi hynny, ond heb wneud digon i ychwanegu ail gôl. Bu rhaid bodloni ar bwynt felly ac aros yn y nawfed safle yn y tabl.
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Jackson, Feely, Jones, Tutonda (Sandell 49′), Byrne, Minshull, Chapman (Flynn 83′), Klukowski, Storey (Howe 76′), O’Connor
Gôl: Storey 38’
Cerdyn Melyn: Flynn 90’
.
Cheltenham
Tîm:
Carson, Berry, Packwood, Brown, Mills, Richards, Braham-Barrett, Sparrow (Wynter 77′), Burns, Haynes, Harrad (Manset 57′)
Gôl: Burns 13’
Cerdyn Melyn: Mills 90’
.
Torf: 2,951