Chris Coleman
Mae Cymru wedi llithro tri safle yn netholiadau pêl-droed y byd wrth i FIFA gyhoeddi’r rhestr ddiweddaraf heddiw.

Bellach mae tîm Chris Coleman yn 37ain, gyda bron yn union yr un faint o bwyntiau â mis diwethaf ond yn llithro gan fod gwledydd eraill wedi neidio i fyny’r tabl.

Roedd gwell newyddion i Israel, gwrthwynebwyr nesaf Cymru yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2016, wrth iddyn nhw neidio chwe safle i 26ain, eu safle uchaf ers 2010.

Mae prif ddetholion grŵp rhagbrofol Cymru, Gwlad Belg, yn aros yn bedwerydd yn y detholiadau ac mae Bosnia-Herzegovina yn aros yn 30ain.

Cododd Cyprus bedwar safle i 85fed, ac mae Andorra yn parhau ar y gwaelodion yn 201af.

Lloegr yn llithro

Disgynnodd Lloegr unwaith eto yn y detholiadau ac maen nhw bellach yn 17eg, dau safle yn is nag yr oedden nhw.

Mae’r Alban yn cwympo un safle i 38ain, Gogledd Iwerddon yn codi wyth safle i 43fed, a Gweriniaeth Iwerddon yn codi un safle i 66ain.

Does dim newid yn y naw uchaf – Yr Almaen, Yr Ariannin, Colombia, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Brasil, Portiwgal, Ffrainc ac Uruguay – gyda’r Eidal yn codi uwchben Sbaen i’r degfed safle.