Mae amddiffynnwr canol Abertawe, Jordi Amat wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r Elyrch, a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2018.

Amat yw’r ail Sbaenwr mewn deuddydd i ymestyn ei gytundeb, wedi i Angel Rangel gael cytundeb newydd ddoe.

Prin fu cyfleoedd Amat yn y tîm cyntaf y tymor hwn oherwydd anaf i’w benglin.

Ymddangosodd 30 o weithiau yn ei dymor cyntaf ar ôl symud o Espanyol am £2.5 miliwn yn 2013.

Dywedodd Amat wrth wefan yr Elyrch: “Dwi mor hapus gan ei fod yn bwysig gwybod fod gan y clwb hyder a ffydd ynof fi.

“Roedd yn benderfyniad mawr i symud fy nheulu yma.

“Ro’n i’n symud i wlad newydd ac i gynghrair newydd, ond mae’r cyfan wedi gweithio allan yn dda iawn.

“Dwi wedi chwarae mewn gemau yn yr Uwch Gynghrair, y cwpanau a Chynghrair Europa, felly mae wedi bod yn brofiad anhygoel i fi yma’n barod.

“Ond gobeithio mai’r dechrau’n unig yw hyn.”