Bafetimbi Gomis wedi arwyddo i Abertawe yn haf 2014
Mae Abertawe wedi gwrthod cynnig o £7miliwn am yr ymosodwr Bafetimbi Gomis gan West Ham ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo, yn ôl Sky Sports.

Fe ddywedodd Garry Monk yn glir nad oedd Gomis yn mynd i unman y tymor hwn, gyda rheolwr yr Elyrch yn benderfynol o’i gadw fel un o’i opsiynau ymosodol.

Chwaraeodd Gomis gêm lawn dros y penwythnos yn erbyn Southampton.

Yn ôl adroddiadau blaenorol roedd Abertawe eisoes wedi gwrthod cynnig o £9miliwn gan Crystal Palace am y Ffrancwr 29 oed.

Abertawe yn llygadu Olsson

Mae’n debyg fod Abertawe fodd bynnag dal â diddordeb yn amddiffynnwr chwith Norwich, Martin Olsson.

Byddai’n rhaid i’r Elyrch dalu tua £5m am yr amddiffynnwr o Sweden, gyda Monk yn gobeithio cryfhau’r amddiffyn ac ychwanegu cystadleuaeth am y safle rhwng Neil Taylor ac Olsson.

Ond yn ôl adroddiadau mae Tony Pulis â diddordeb mewn denu Neil Taylor i West Brom cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau.