Trefor Lloyd Hughes
Mae enw llywydd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi cael ei gynnig ar gyfer un o’r prif swyddi yn FIFA, y corff sydd yn rhedeg pêl-droed ar draws y byd.

Fe gyflwynodd CBDC eu llywydd Trefor Lloyd Hughes fel eu henwebiad i fod yn is-lywydd ar bwyllgor gweithredol FIFA.

Ond fe fydd yn cystadlu yn erbyn enwebiadau o Loegr a’r Alban sydd hefyd wedi cael eu cyflwyno.

Torri cytundeb?

Yn hanesyddol mae un o is-lywyddion FIFA wastad wedi dod o wledydd Prydain, ac fe fydd yr is-lywydd presennol Jim Boyce yn camu lawr ym mis Mai.

Bydd Trefor Lloyd Hughes yn cystadlu yn erbyn David Gill sydd wedi cael ei enwebu gan FA Lloegr, a Campbell Ogilvie sydd wedi cael ei gynnig gan yr Albanwyr.

Ond yn ôl cytundeb gafodd ei wneud rhwng gwledydd Prydain yn 2011 fe fyddai pob gwlad yn cymryd ei thro i enwebu rhywun, a thro Cymru fyddai hi wedi bod yn 2015.

Yn lle hynny mae FA Lloegr wedi dadlau bod y cytundeb hwnnw bellach ddim yn berthnasol oherwydd newidiadau i’r drefn o enwebu is-lywyddion FIFA, ac wedi gwrthod cefnogi enwebiad CBDC.

Bydd cyfle gan holl wledydd Ewropeaidd UEFA i bleidleisio dros yr is-lywydd nesaf yn eu cyfarfod yn Fiena ar 24 Mawrth.