Geraint Thomas
Fe fydd Geraint Thomas yn arwain Team Sky yn rasys Tour Dubai ym mis Chwefror ar ôl i’r tîm gyhoeddi pa seiclwyr fydd yn cystadlu mewn dwy ras yn y Dwyrain Canol.

Bradley Wiggins sydd wedi cael ei ddewis i arwain y tîm ar gyfer Tour Qatar, sydd yn dechrau’r diwrnod ar ôl i gystadleuaeth Dubai ddod i ben.

Ac fe fydd y Cymro ifanc Luke Rowe yn rhan o’r tîm fydd yn cynorthwyo Wiggins yn Qatar.

Mae ras Geraint Thomas yn Dubai yn dechrau ar 4 Chwefror ac yn gorffen tridiau yn ddiweddarach, ac mae Ian Boswell, David Lopez a Ben Swift ymysg y seiclwyr fydd yn ei gynorthwyo i Sky.

Yna fe fydd Luke Rowe yn seiclo i Sky yn Qatar rhwng 8 a 13 Chwefror, ochr yn ochr â Bernhard Eisel ac Andy Fenn – yr un unig ddau o seiclwyr Sky fydd yn cystadlu yn y ddwy ras.

Tîm Sky ar gyfer Tour Dubai (4-7 Chwefror)

Ian Boswell, Bernhard Eisel, Andy Fenn, David Lopez, Salvatore Puccio, Ben Swift, Geraint Thomas, Elia Viviani

Tîm Sky ar gyfer Tour Qatar (8-13 Chwefror)

Bernhard Eisel, Andy Fenn, Christian Knees, Danny Pate, Luke Rowe, Ian Stannard, Chris Sutton, Bradley Wiggins