Mae rheolwr Caerdydd Russell Slade wedi cadarnhau fod y clwb wedi arwyddo’r asgellwr ifanc Tidjane Balde o Inter Milan tan ddiwedd y tymor.

Bydd yr Adar Gleision hefyd yn ceisio ymestyn cyfnod treial y chwaraewr canol cae Khaleem Hyland, sydd wedi bod yn ymarfer gyda’r clwb.

Ond dyw’r golwr David Marshall ddim yn mynd i unrhyw le mis yma, meddai Slade.

Cyfle i gael golwg

Dywedodd Slade mewn cynhadledd i’r wasg heddiw y byddai Balde, sydd yn 18 oed, yn treulio’r rhan fwyaf o’i gyfnod gyda Chaerdydd yn ymarfer gyda’r tîm dan-21.

“Fe welon ni’r chwaraewr deuddydd yn ôl yn ymarfer rhyw ychydig – mae e’n ifanc, ddim yn gorfforol iawn, ond yn dechnegol. Fe gawn ni gyfle i edrych arno,” meddai Slade.

Mynnodd hefyd nad oedd y clwb wedi cynnig cytundeb eto i Khaleem Hyland, y chwaraewr canol cae 25 oed o glwb Genk yng Ngwlad Belg.

Mae’r chwaraewr o Drinidad a Tobago yn ffrindiau gydag ymosodwr Caerdydd Kenwyne Jones, ac wedi bod yn ymarfer gyda’r clwb yr wythnos hon.

“Mae e mewn gyda ni, yn ymarfer ar hyn o bryd. Mae e ar ei hôl hi ychydig achos dyw e heb fod yn chwarae,” esboniodd Slade.

“Mae’n bosib y gwnawn ni geisio’r gael i aros yn hirach fel ein bod ni’n cael cyfle i edrych mwy arno heb orfod cytuno ar unrhyw beth.

“Mae e’n dod i ddiwedd ei dreial o wythnos a falle wnawn ni ymestyn hynny, ond does dim byd wedi cael ei gytuno eto.”