Southport 0–1 Wrecsam

Roedd gôl Jay Harris yn gynnar yn yr ail hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Wrecsam yn erbyn Southport ar Haig Avenue brynhawn Gwener.

Digon di fflach oedd yr hanner cyntaf ond wnaeth hi ddim cymryd llawer i bethau wella i’r Dreigiau wedi’r egwyl.

Roedd llai na munud o’r ail hanner wedi mynd pan ddaeth Harris o hyd i’r gornel isaf o bum llath ar hugain gyda help y postyn.

Cafodd y tîm o ogledd Cymru ambell gyfle i ddyblu’r fantais wedi hynny hefyd ond roedd un gôl yn ddigon.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn y deuddegfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama.

.

Southport

Tîm: Raya Martin, Collins, Foster, McDonald, Fitzpatrick, Rutherford (Austin 66′), Joyce, George, Bakayoko, Hattersley (Marsden 68′), Brodie

Cardiau Melyn: McDonald 56’, Foster 61’, Collins 82’

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, Pearson, Hudson, Smith, Ashton, Carrington, Evans, Harris, Jennings, Moult (York 71′), Bishop (Hunt 46′)

Gôl: Harris 46’

Cerdyn Melyn: Smith 58’

.

Torf: 1,912