Casnewydd 2–0 Plymouth
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth dda yn erbyn Plymouth ar Rodney Parade brynhawn Gwener wrth iddynt aros yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran.
Dechreuodd Casnewydd y gêm dri phwynt tu ôl i’w gwrthwynebwyr ond roedd gôl gynnar Chris Zebroski a gôl hwyr Mark Byrne yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Cymry.
Naw munud yn unig oedd ar y cloc pan rywdodd Zebroski’r gôl agoriadol yn dilyn gwaith creu da Byrne.
Bu rhaid i Jamie Stephens fod yn effro yn y gôl yn y pen arall yn fuan wedyn i atal peniad Anthony O’Connor.
Yna, naw munud o’r diwedd fe ddyblwyd mantais y tîm cartref gyda Byrne yn sgorio’r tro hwn o gic gornel Andy Sandell.
Tarodd Reuben Reid y trawst i’r ymwelwyr wedi hynny ond daliodd Casnewydd eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn eu cadw yn seithfed yn nhabl yr Ail Adran.
.
Casnewydd
Tîm: Stephens, Jones, Yakubu, Poole, Jackson, Chapman (Flynn 79′), Minshull (Klukowski 90′), Sandell, Byrne, Zebroski, Jeffers (Howe 66′)
Goliau: Zebroski 9’, Byrne 82’
Cerdyn Melyn: Jones 33’
.
Plymouth
Tîm: McCormick, Mellor, McHugh, Kellett, O’Connor, Cox, Norburn (Morgan 68′), Reid, Bentley, Alessandra (Banton 77′), Reid
Cardiau Melyn: Kellett 17’, O’Connor 53’
.
Torf: 5,020