Wilfried Bony
Mae rheolwr Abertawe Garry Monk wedi mynnu nad yw’r ymosodwr Wilfried Bony ar werth, ac y byddai’n rhaid i rywun gynnig pris syfrdanol o uchel er mwyn ei berswadio i’w werthu.
Fe sgoriodd Bony ei chweched gôl mewn saith gêm dros y penwythnos, ac fe sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau yn y gynghrair yn ystod 2014.
Bydd Abertawe yn gobeithio am ragor o goliau ganddo wrth iddyn nhw herio QPR yn y gynghrair heno.
Ond mae’n annhebygol y bydd yn gadael Stadiwm Liberty ym mis Ionawr, gan ei fod newydd arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe a’i fod hefyd yn mynd i chwarae yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica gyda’r Traeth Ifori ym mis Chwefror.
‘Ddim yn glwb gwerthu’
Wrth siarad â’r wasg cyn y gêm yn erbyn QPR nos Fawrth, fe ddywedodd Garry Monk mai dim ond clecs ffenestr drosglwyddo oedd y sôn y gallai clwb mawr geisio prynu Bony.
“Dydyn ni ddim yn glwb gwerthu, does dim rhaid i ni werthu i unrhyw un,” meddai Monk.
“Dyma ddechrau pwy sy’n mynd ble yn y ffenestr [drosglwyddo], ond rydyn ni am lynu gyda’n chwaraewyr ac maen nhw am lynu gyda ni.
“Fi wedi dweud yn y gorffennol bod arian yn penderfynu beth sy’n digwydd mewn pêl-droed, ond fe fyddai’n rhaid i ni gael cynnig syfrdanol cyn i ni adael iddo fynd unrhyw le.”
Cadw gafael ar fantais
Fe fydd Abertawe yn gobeithio taro nôl gyda buddugoliaeth yn erbyn QPR ar ôl gêm gyfartal rwystredig yn erbyn Crystal Palace dros y penwythnos.
Fe ildiodd Abertawe ar ôl bod ar y blaen unwaith eto, ac maen nhw bellach wedi colli 13 o bwyntiau ar ôl bod yn ennill mewn gemau’r tymor hwn.
Ond gyda’r tîm yn wythfed yn y tabl, a chyda’u cyfanswm uchaf erioed o bwyntiau ar ôl deuddeg gêm, dyw Monk ddim yn poeni’n ormodol.
“Fi’n canolbwyntio mwy ar yr 19 pwynt sydd gennym ni, mwy nag erioed o’r blaen, gwthio ’mlaen a gwella pethau,” meddai Monk.
“Ni’n edrych ar y gemau a phethau y gallwn ni wella ond rydyn ni’n gwneud yn dda, ac ar ddiwrnod arall fe allwn ni fod wedi ennill y gêm yn erbyn Palace.”