Caernarfon 2–3 Y Seintiau Newydd

Cafwyd chwip o gêm ar yr Ofal brynhawn Sul wrth i’r Seintiau Newydd ymweld â Chaernarfon yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.

Aeth y Caneris ddwy gôl ar y blaen cyn i’r tîm llawn amser o Groesoswallt daro nôl gyda thair gôl gyflym cyn yr egwyl, ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Daeth Matty Williams yn agos i’r Seintiau yn gynnar ond fe ffrwydrodd y sŵn yn yr Ofal wedi saith munud o chwarae pan wyrodd cic rydd Nathan Craig oddi ar gefn Mike Wilde i gefn y rhwyd.

Darren Thomas oedd y chwaraewr gorau ar y cae yn yr hanner cyntaf a bu bron iddo ddyblu mantais Caernarfon wedi ugain munud gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi a gafodd ei harbed gan Paul Harrison.

Fe wnaeth Thomas rwydo ychydig funudau’n ddiweddarach ac roedd hi’n gôl unigol wych. Rhedodd gyda’r bêl o’r llinell hanner gan guro tri dyn cyn taro ergyd wych i’r gornel uchaf o ugain llath.

Roedd hon yn gôl cystal, fe wnaeth cefnogwyr Caernarfon tu ôl i’r gôl gyffroi gymaint nes y bu iddynt ddymchwel wal yn ddamweiniol. Achosodd hyn ychydig funudau o oedi ac fe wnaeth y Seintiau y gorau o’r hoe.

Daeth Sam Finley i’r cae fel eilydd yn un peth ac fe wastraffodd gyfle da bron yn syth wrth ergydio dros y trawst.

Newidiodd y gêm yn gyfan gwbl wedyn gyda thair gôl mewn wyth munud i’r Seintiau. Daeth y gyntaf i Wilde yn dilyn camgymeriad yn yr amddiffyn gan Gaernarfon cyn i Chris Marriott unioni pethau yn dilyn gwaith creu da Aeron Edwards. Yna, curodd Jamie Mullan y trap camsefyll i rwydo’r drydedd

Ni chafwyd yr un cyffro yn yr ail hanner ac er i Gaernarfon ymdrechu’n galed, yr ymwelwyr a ddaeth agosaf at sgorio mewn gwirionedd, gyda Chris Seargant a Scott Quigley’n taro’r pren.

Cae a chael oedd hi yn y diwedd felly ond mae’r deiliaid yn yr het yn dilyn clasur o gêm o flaen torf iach ar yr Ofal.

.

Caernarfon

Tîm: Pritchard, Clive Williams, Murphy (Edwards 87’), Austin, Craig, Gibbs (Hurdman 82’), Roberts, Gwynedd, Thomas, Chris Williams, Corey Williams (Owen 57’)

Goliau: Craig 7’, Thomas 26’

Cardiau Melyn: Gibbs 55’, Roberts 64’,

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, K. Edwards, Rowlinson, Marriott, Seargeant, A. Edwards, Mullan (Quigley 80’), Williams (Finley 27’), Cieslewicz, Wilde

Goliau: Wilde 37’, Marriott 39’, Mullan 45’

Cerdyn Melyn: K. Edwards 6’

.

Torf: 1,250