Port Talbot 2–0 Caerfyrddin

Cafodd deg dyn Caerfyrddin eu curo gan Bort Talbot yn Stadiwm GenQuip yn Uwch Gynghrair Cymru brynhawn Sul.

Derbyniodd ymosodwr yr ymwelwyr, Liam Thomas, gerdyn coch dadleuol ar ddiwedd yr hanner cyntaf ac fe fanteisiodd Port Talbot yn llawn yn yr ail gyfnod gyda goliau Liam McCreesh a Luke Bowen yn ennill y gêm i’r Gwŷr Dur.

Hanner Cyntaf

Cafodd y ddau dîm gyfle i agor y sgorio yn y deg munud agoriadol wrth i’r gêm ddechrau’n addawol. Peniodd Lee Surman heibio’r postyn i Bort Talbot ac fe wnaeth Steve Cann arbediad da i atal Chris Hartland yn y pen arall.

Cafodd Liam Thomas gyfle gwych i roi Caerfyrddin ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ond er i’w ergyd guro’r gôl-geidwad, llwyddodd Surman i glirio oddi ar y llinell.

Roedd Thomas yn ei chanol hi eto dri munud yn ddiweddarach, disgynnodd i’r llawr yn y cwrt cosbi wedi i Chad Bond sathru ar gefn ei goes. Dylai’r dyfarnwr fod wedi pwyntio at y smotyn ond estynnodd, yn hytrach, i’w boced i roi cerdyn melyn i Thomas am dwyllo!

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Thomas ym munudau olaf yr hanner wrth i’r blaenwr dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch, ac roedd hwn yr un mor hallt â’r cyntaf. Cyffyrddodd ag ysgwydd Steve Cann wrth iddo geisio cymryd cic gôl, gwnaeth y gôl-geidwad y mwyaf ohoni, aeth y dyfarnwr i’w boced ac roedd Caerfyrddin lawr i ddeg dyn.

Ail Hanner

Doedd fawr o syndod felly gweld Port Talbot yn rheoli’r ail hanner a methodd Luke Bowen ddau gyfle euraidd i’w rhoi ar y blaen yn y pum munud agoriadol.

Daeth y cyfle nesaf i Keyon Reffell toc wedi’r awr ond llusgodd yr asgellwr chwim ei ergyd fodfeddi heibio’r postyn.

Bu rhaid i’r Gwŷr Dur aros tan y deunaw munud olaf am gôl ond yna fe ddaeth dwy mewn tri munud.

Sgoriodd McCreesh i gôl wag yn dilyn rhediad da Daniel Sheenan ar y chwith a methiant Craig Hanford a Cortez Belle i glirio’r bêl o’r cwrt chwech.

Yna, gorffennodd Luke Bowen symudiad da gan wyro croesiad Bond i gefn y rhwyd.

Felly yr arhosodd pethau tan y diwedd wrth i Bort Talbot guro’r deg dyn yn gymharol gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn codi Port Talbot dros Gaerfyrddin i’r pumed safle yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru. Mae Caerfyrddin ar y llaw arall yn llithro i’r seithfed safle.

.
Port Talbot
Tîm:
Cann, Corey Thomas, Williams, Surman, Sheenan, Evans, Bond, McCreesh, Bowen, Reffell, Griffiths (Casey Thomas 72’)
Goliau: McCreesh 74’, Bowen 77’
Cerdyn Melyn: Sheenan 27’

.
Caerdyrddin
Tîm:
Idzi, Cummings, Belle, C. Thomas, Hanford, Harling (Morgan 79’), Fowler, Hartland (White 70’), Bassett, Walters (Brooks 76’), L. Thomas
Cardiau Melyn: Harling 21’, L. Thomas 28’, 42’, Bassett 88’
Cerdyn Coch: L. Thomas 42’
.
Torf: i ddilyn