Jamie Donaldson y golffiwr
Er golfio gwych gan Jamie Donaldson dros y penwythnos yn Dubai, roedd yn bell tu ôl i’r enillydd.

Heddiw ym Mhencampwriaeth Cylchdaith Ewrop, daeth Jamie Donaldson sy’n wreiddiol o Bontypridd, yn 12fed wedi iddo sgorio 10 ergyd o dan y safon am y twrnamaint.

Roedd hyn chwe ergyd tu ôl i Henrik Stenson o Sweden a orffennodd 16 ergyd yn well na’r safon yn gystadleuaeth olaf y tymor.

Mae hyn yn golygu bod Donaldson wedi dod yn bedwerydd yn rhestr y “Ras I Dubai” gyda 2,987,951   o bwyntiau  yn dilyn blwyddyn gorau o’i yrfa.

Roedd golffiwr gorau’r byd, Rory McIlroy, wedi ennill y ras i Dubai ymhell cyn pencampwriaeth olaf y tymor wedi iddo ennill dwy o’r pedair prif bencampwriaethau byd golf yn ogystal ag amryw o dwrnameintiau eraill.

Ergyd y flwyddyn

Yn ogystal â tharo’r ergyd a seliodd buddugoliaeth Ewrop yng Nghwpan Ryder yn erbyn Unol Daleithiau’r Amerca seliodd Jamie Donaldson ei le yn nhîm Ewrop ym mis Awst drwy ennill pencampwriaeth Maestri Gweriniaeth Tsiec.

Erbyn hyn Jamie Donaldson 39, wedi cyrraedd y 24ed safle yn y byd sy’n golygu ei fod yn gymwys i chwarae’r cystadlaethau mawr i gyd gan gynnwys Pencampwriaeth Agored Prydain a Maestri yr Unol Daliaethau.

Dywedodd Donaldson ei fod “wrth ei fodd gyda’i flwyddyn orau ar y gylchdaith” a’i fod yn gobeithio gallu gwneud “hyd yn oed yn well” blwyddyn nesaf.