James Collins
Mae amddiffynnwr Crawley Joe Walsh wedi’i alw i garfan Cymru, yn dilyn cadarnhad fod James Collins ddim am ymuno oherwydd anaf.

Ni fydd Paul Dummett na Lee Evans yn y garfan chwaith oherwydd anafiadau, gyda chefnwr Caerdydd Declan John yn dod i mewn.

Neithiwr ar Twitter fe anfonodd cyfrif swyddogol Crawley Town eu llongyfarchiadau i Walsh yn dilyn sïon fod y gŵr ar fin cael ei alw o’r tîm.

Ar yr un pryd fe ddaeth sôn fod Collins am dynnu nôl o garfan Cymru arall, y tro hwn gydag anaf i gesail y forddwyd, ac mae’r Gymdeithas Bêl-droed nawr wedi cadarnhau’r newidiadau i’r garfan.

Bydd yr amddiffynnwr West Ham felly’n methu dwy gêm nesaf Cymru, yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Wener ac yna Cyprus nos Lun.

Nid dyma’r tro cyntaf i Collins dynnu nôl o garfan yn yr ymgyrch hon – roedd rhaid iddo fethu’r trip agoriadol i Andorra hefyd oherwydd anaf i linyn y gâr.

Mae’r amddiffynnwr 31 oed hefyd wedi ffraeo â’r rheolwr Chris Coleman yn y gorffennol, er eu bod nhw bellach wedi cymodi.

Ar y llaw arall mae’n golygu y gallai Walsh ennill ei gap cyntaf dros Gymru. Mae gan Walsh, sy’n 22 oed, 11 o gapiau dros dîm dan-21 Cymru ac mae wedi bod yn chwarae i Crawley ers dwy flynedd ar ôl gadael ei glwb cyntaf Abertawe.

Blog Iolo Cheung – Anlwc yr anafiadau, ond Cymru dal yn ddigon cryf