Torquay 2–1 WrecsamWrecsam

Colli fu hanes Wrecsam yn Torquay brynhawn Sadwrn diolch i gôl hwyr Luke Young ar Plainmoor.

Rhoddodd Louis Moult y Dreigiau ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Louis Briscoe unioni pethau toc wedi’r awr. Yna, gyda dim ond chwe munud o’r naw deg i fynd, fe gipiodd Young y pwyntiau i gyd i Torquay.

Ychydig llai na hanner awr oedd wedi mynd pan roddodd Moult yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen gyda’i chweched gôl o’r tymor, ac felly yr arhosodd pethau tan hanner amser.

Daeth Torquay yn ôl iddi yn yr ail hanner ac roeddynt yn gyfartal wedi i Briscoe rwydo yn dilyn gwaith creu Toby Ajala.

Mae’n debyg y byddai Wrecsam wedi bod yn gymharol fodlon â phwynt oddi cartref yn erbyn un o’r timau arall tua brig y Gyngres, ond cipwyd hwnnw oddi arnynt yn y munudau olaf pan rwydodd Young.

Mae’r Dreigiau felly’n disgyn i’r seithfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama, gyda Torquay yn codi i’r trydydd safle yn eu lle.

.

Torquay

Tîm: Rice, Tonge, Pearce, MacDonald, Cruise, Briscoe (Yeoman 95′), Young, Wakefield, Cameron, Bowman, Ajala

Goliau:Briscoe 62’, Young 84’

Cardiau Melyn: Cameron 85’, McDonald 90’

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, Carrington, Smith, Hudson, Ashton, York, Clarke, Keates, Durrell (Bishop 82′), Moult (Holman 86′), Jennings

Gôl: Moult 29’

Cerdyn Melyn: Ashton 76’

.

Torf: 2,350