Rio Ferdinand
Mae Rio Ferdinand wedi dod i’r amlwg fel ymgeisydd posibl i fod yn is-lywydd cymdeithasau pêl-droed gwledydd Prydain ar fwrdd FIFA.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar hyn o bryd yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr posib ar ôl i is-gadeirydd yr FA, David Gill, ddweud nad oes ganddo ddiddordeb ceisio am y swydd.

Mae Rio Ferdinand yn un o nifer o enwau sy’n cael eu hystyried er gwaethaf y ffaith fod yr amddiffynnwr yn dal i chwarae i QPR.

Mae Graeme Le Saux, Paul Elliott a David James hefyd yn cael eu hystyried.

Pwy bynnag fydd yn cael ei ddewis gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, bydd yn rhaid iddyn nhw sefyll fis Mawrth nesaf yn erbyn gwrthwynebwyr o Gymru a’r Alban – yn ôl pob tebyg llywydd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban, Campbell Ogilivie, a llywydd Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes.

Ond mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru o’r farn mai eu tro nhw yw hi i gael rhywun yn FIFA. Does yr un Cymro wedi dal y swydd ers bron i 70 mlynedd ers iddi gael ei sefydlu.

Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dan yr argraff fod cytundeb gyda’r cymdeithasau i adael iddyn nhw gael y swydd am y pedair blynedd nesaf, ond mae rhai o fewn FA Lloegr yn dweud bod unrhyw fargen wedi cael ei dileu gan ddiwygiadau FIFA sy’n golygu bod rhaid i holl wledydd UEFA bleidleisio dros yr is-lywydd yn hytrach na dim ond cymdeithasau’r DU.