Caer 2–1 Wrecsam

Ildiodd Wrecsam gôl hwyr yn Stadiwm Deva nos Lun wrth golli’r gêm ddarbi yn erbyn Caer yn y Gyngres.

Aeth Wrecsam ar y blaen diolch i gôl gynnar Blaine Hudson ond unionodd Craig Hobson i’r tîm cartref chwarter awr o’r diwedd cyn i Ben Heneghan ddiffodd tân y Dreigiau yn y pedwerydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

66 eiliad yn unig oedd ar y cloc pan sgoriodd Hudson y gôl agoriadol ar yr ail gynnig. Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o weddill yr hanner cyntaf hefyd ond methodd Wes York a Connor Jennings gyfleoedd da i ddyblu’r fantais.

Roedd Caer yn well wedi’r egwyl a bu bron i John Rooney unioni pethau ond tarodd ei gic rydd yn erbyn y postyn.

Roedd y tîm cartref yn gyfartal chwarter awr o’r diwedd serch hynny pan wyrodd Hobson groesiad Rooney i gefn y rhwyd.

Yna, gyda’r chwiban olaf yn dynesu fe gipiodd y Saeson y pwyntiau i gyd pan rwydodd Heneghan o groesiad dwfn Kingsley James.

Mae Wrecsam yn aros yn y degfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama er gwaetha’r canlyniad.

.

Caer

Tîm: Worsnop, Kay, Roberts, Charnock, Hall (Touray 59′), Mahon (Riley 73′), James, Heneghan, Rooney, McConville, Hobson (Iwelumo 83′)

Goliau: Hobson 74’, Heneghan 90

Cardiau Melyn: Charnock 48’, Rooney 50’

.

Wrecsam

Tîm: Bachmann, Ashton, Smith, White, Hudson, Evans (Keates 64′), Durrell (Holman 81′), Clarke, Jennings, Moult, York (Bailey-Jones 76′)

Gôl: Hudson 2’

Cardiau Melyn: White 42’, Hudson 50’, Bachmann 78’

.

Torf: 3,183