Daw tymor Morgannwg i ben yn y Bencampwriaeth yr wythnos hon, wrth iddyn nhw groesawu Swydd Hampshire i Stadiwm Swalec.

Er bod y Cymry’n seithfed yn yr ail adran, fe allai buddugoliaeth eu codi i ganol y tabl, tra bod yr ymwelwyr yn ail ac ymhlith y rhai a allai ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf y tymor nesaf.

Dim ond cerrig milltir personol sydd ar gael i Forgannwg, fodd bynnag, wrth i Will Bragg (983 o rediadau) glosio at 1,000 o rediadau ar gyfer y tymor, ac mae angen 73 ar Jim Allenby i gyrraedd yr un nod.

Gallai Chris Cooke hefyd gyrraedd 1,000 o rediadau pe bai’n sgorio 135 yn yr ornest olaf, tra bod angen 65 ar Jacques Rudolph ar gyfer 2,000 o rediadau ym mhob fformat y tymor hwn.

Ymhlith y bowlwyr, mae angen chwe wiced ar Michael Hogan i gyrraedd 100 ar gyfer y tymor ym mhob cystadleuaeth, tra bod angen chwe wiced ar Jim Allenby i gyrraedd y garreg filltir ddeublyg o 500 o rediadau a 50 o wicedi mewn criced dosbarth cyntaf y tymor hwn.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo’r ymwelwyr yn y Bencampwriaeth ers 23 o flynyddoedd, a’r fuddugoliaeth olaf honno yn Southampton pan darodd Matthew Maynard 243 – ei gyfanswm unigol gorau erioed, ac fe darodd Hugh Morris, cyfarwyddwr criced Morgannwg, 131 o rediadau hefyd wrth i’r Cymry sgorio 504.

Y tro diwethaf i Forgannwg guro Swydd Hampshire yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd oedd 1985.

Ni fydd cyfle i Forgannwg ffarwelio’n swyddogol â Gareth Rees na Murray Goodwin, sydd wedi cyhoeddi eu hymddeoliad yn ddiweddar, ac fe fydd yr ornest olaf yn gyfle i rai o’r chwaraewyr ifanc gael amser wrth y llain.

Ar drothwy’r ornest olaf, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford fod un mis gwael yng nghanol tymor y Bencampwriaeth wedi ei siomi.

Dywedodd wrth Golwg360: “Fe gawson ni fis gwael, gan ddechrau gyda pherfformiad Saeed Ajmal [troellwr Swydd Gaerwrangon] yng Nghaerwrangon ac yna fe gawson ni wiced damp ym Mae Colwyn.

“Wedi’r ornest ym Mae Colwyn [yn erbyn Swydd Surrey], aethon ni i Derby ac yna i Abertawe [i herio Swydd Essex] felly roedd gyda ni bedair gornest gefn-wrth-gefn a wnaethon ni ddim perfformio’n dda iawn o gwbl.

“Ers hynny, ry’n ni wedi llwyddo i droi pethau o gwmpas a chael cromlin sy’n symud i fyny.

“Ar ddechrau’r tymor, roedden ni ar gromlin i fyny felly’r cyfnod hwnnw yn y canol [oedd y drafferth].

“Byddwn i’n dadlau, o ran y bowlwyr, nad ydyn ni wedi meddu ar ddigon o adnoddau ac ry’n ni wedi cael tipyn o anafiadau felly dy’n ni ddim o reidrwydd wedi cael yr holl fowlwyr yn ddigon ffit i ddod i mewn, sy’n golygu ein bod ni wedi gorfod chwarae’r un chwaraewyr yn y pedwar fformat.

“O ran y batio, ry’n ni fwy na thebyg wedi colli gormod o wicedi mewn clwstwr lle’r oedd gwir angen i ni ddal ein tir.

“Ar y lleiniau sydd wedi cynnig tipyn i ni, ry’n ni wedi cael ein bowlio allan fwy o weithiau nag y bydden ni wedi dymuno.”

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph, W Bragg, C Cooke, J Allenby, D Lloyd, A Donald, M Wallace (capten), G Wagg, D Cosker, R Smith, M Hogan, K Bull, W Owen.

Carfan 13 dyn Swydd Hampshire: J Adams (capten), T Alsop, D Briggs, M Coles, L Dawson, S Ervine, W Smith, Imran Tahir, S Terry, J Tomlinson, J Vince, A Wheater, C Wood