Nico Rosberg
Phil Kynaston sy’n edrych yn ôl ar Grand Prix nos Singapore, wrth i Lewis Hamilton gymryd mantais o anffawd Nico Rosberg i ennill ras y tywyllwch ac ail-gipio’r brig yn y bencampwriaeth mewn ras brysur i Mercedes.
Newidiadau i bawb
Roedd newyddion mawr yn mynd i mewn i benwythnos Grand Prix Singapore ar, ac oddi ar, y trac.
Wrth i dymor siomedig arall (heb fuddugoliaeth) ddechrau tynnu tua’i derfyn fe ymddiswyddodd llywydd Ferrari, Luca di Montezemolo, wedi dros 40 mlynedd gyda’r cwmni, a hynny dim ond un ras ers iddo ddweud ei fod yn aros!
Y newidiadau ar y trac oedd bod y cyfarwyddwr ras Charlie Whiting am fod yn fwy llym gydag erthygl 20.1 o’r rheolau, sef bod rhaid i’r ‘gyrwyr yrru’r car ar ben eu hunain ac yn ddigymorth’.
Golygai hyn waharddiad ar negeseuon dros y radio am sut i yrru’r car a chymariaethau gyda gyrwyr eraill. Efallai nad y ras nos yn unig fyddai’n cadw’r gyrwyr yn y tywyllwch felly.
Rhagbrawf
Nico Rosberg oedd y gyrrwr mwyaf nodweddiadol yn ystod y rhagbrawf, wrth iddo fethu’i bwynt brecio yn ystod Q1.
Mae’n debyg fod o’n fwy hoff o’r ffyrdd dianc na’r trac erbyn hyn, gyda’i drydydd ymweliad ag un mewn dau benwythnos (heb anghofio rhagbrawf Monaco wrth gwrs!). Yn wahanol i’r digwyddiadau yno, doedd y tro yma yn gwneud dim niwed iddo fo na neb arall.
Fe fethodd yr Almaenwr gymryd yr amser cyflymaf wrth i Hamilton ei guro o 0.007 eiliad.
Ar benwythnos y rheolau newydd dangosai hyn beth mae radio’r timau yn ychwanegu at brofiad y gwylwyr, wrth i ni glywed Nico yn gweiddi “Damn it!” wrth ddeall nad oedd o wedi curo Lewis.
Ricciardo oedd yn drydydd gyda Vettel yn bedwerydd.
Un Mercedes yn methu
Parhaodd Rosberg i ddenu’r sylw cyn dechrau’r ras, wrth iddi ddod i’r amlwg fod ganddo broblem clutch.
Ceisiodd y tîm gywiro’r sefyllfa wrth roi olwyn lywio newydd iddo, ond ni weithiodd hynny wrth i weddill y pac ei adael ar y grid i fynd ar y lap ffurfio. Fe lwyddodd o i gychwyn y ras o’r lôn bit.
Fe gymerodd Vettel fantais o’r bwlch grid gwag newydd o’i flaen i basio Ricciardo. Cafodd Alonso ddechrau gwell fyth yn pasio’r ddau ohonynt, ond iddo orfod rhoi safle yn ôl i Vettel ar ôl methu’r gornel gyntaf.
Roedd hi fel petai car Rosberg wedi mynd yn ôl cenhedlaeth – y cwbl oedd o’n gallu gwneud yn gywir gyda’r olwyn lywio oedd llywio! Doedd o methu defnyddio’r systemau pŵer trydanol na’r DRS.
Hefyd, bob tro y ceisiai newid gêr i fyny, byddai’r car yn newid i fyny dau ger. Felly roedd y car a allai fod yn arwain yn methu pasio’r un car oherwydd diffyg llwyr o gyflymiad. Yn methu tynnu’r clutch i mewn, byddai pitstop yn anodd iawn hefyd.
Wedi ymdrechion gan y mecanyddion yn ystod pitstop hir fe benderfynwyd ymddeol Rosberg o’r ras ar lap 15, gyda’i gar yn methu mynd yn gyflym na stopio!
Fe ddarganfuwyd yn hwyrach mai problem gwifrau yn y golofn lywio oedd achos y drafferth. Heb wifrau gweithredol doedd dim posib i fotymau’r llyw weithio.
Y Mercedes arall yn gorfod ail-feddwl
Roedd hi’n edrych felly y byddai Hamilton yn ennill yn hawdd. Hyn tan i’r car diogelwch orfod dod allan am ei drip blynyddol Singapore, wrth i Perez a Sutil wrthdaro, ac aden flaen y Force India yn chwalu’n deilchion dros y trac.
Gallai strategaeth Mercedes fod wedi costio’r ras i Hamilton. Mae’r rheolau yn dweud fod rhaid i bob gyrrwr ddefnyddio’r ddau gyfansoddyn teiar sydd ar gael iddynt yn y ras.
Gyda chyfnod diogelwch hir yn arbed tanwydd a phwysau ar y teiars (a’r pac yn medru cau’r bwlch ar Hamilton), roedd cystadleuwyr y Mercedes yn medru rhedeg nes y diwedd yn ddi-stop rŵan, tra byddai’n rhaid i Hamilton stopio eto i newid ei deiars gor-feddal am rai meddal.
Pan aeth y car diogelwch i mewn roedd hi’n amser i Lewis ddangos gwir gyflymder y Mercedes. Mewn 13 lap fe agorodd fwlch o 25 eiliad! Ond wrth ddod allan o’r pit, doedd hyn ddim yn ddigon i gadw’r arweinyddiaeth.
Cael a chael oedd hi iddo gadw ail rhag Ricciardo wrth i Vettel arwain. Ond ar ôl dangos cyflymder y car, dangosodd Hamilton ei sgil ef, yn pasio Vettel yn hawdd llai na lap ar ôl ei stop.
Canlyniad
Yn pwysleisio natur stryd araf y trac, golygai’r cyfnod car diogelwch byddai’r ras yn cael ei gyfyngu gan amser (dwy awr) yn hytrach na chwblhau’r lapiau (61), ac am yr ail dro eleni, fe enillodd Hamilton ras lle nad oedd pob lap yn y pellter ras yn cyfrif!
Bydd Vettel yn falch o orffen yn uwch na Ricciardo am unwaith, y ddau yn gorffen yn ail a thrydydd cryf i dîm Red Bull.
Gyda ras ddi-sgôr i Rosberg, mae Hamilton yn mynd o fod 22 pwynt ar ei hôl hi i arwain y bencampwriaeth o dri phwynt.
Ail-gipiodd Vettel y pumed safle o flaen Bottas, ac mewn canlyniad tyngedfennol i Force India a McLaren fe aeth Hulkenberg yn hafal ar bwyntiau gyda Jenson Button (72 pwynt, seithfed) gyda’i dîm yn pasio McLaren yn y tabl timau.
Gyda dim ond tri phwynt rhyngddynt mae hi bron fel tasai’r sgoriau wedi’u hailosod ar gyfer pencampwriaeth pum ras rhwng y Mercedes, rhwng rŵan a mis Tachwedd, wrth i Fformiwla 1 symud yn ôl i olau dydd yn Siapan.