Osian Roberts, Hyfforddwr Cymru (Llun: Y GYmdeithas Bel-droed)
Mae hyfforddwr Cymru wedi croesawu’r newyddion fod Cymru wedi codi i’r 29ain safle yn rhestr gwledydd cymdeithasb êl-droed y byd, FIFA.

Roedd yn arbennig o falch ei bod bellach yn 19fed yn rhestr gwledydd Ewrop – gan mai 24 o dîmau sy’n cael chwarae yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2016.

Ond er fod Cymru yn eu safle ucha’ ers 20 mlynedd, mae dwy wlad yng ngrŵp Ewropeaidd Cymru – Gwlad Belg a Bosnia – yn dal i fod o’u blaen.

Osian yn dweud

“Mae’n neisiach gweld ni i fyny fan’na nag yn is i lawr y rhestr,” meddai Osian Roberts wrth Golwg360.

“Dydi’r rhestr ddim bob amser yn gywir ond mae’n arwydd o lle ydan ni ar y funud. Mae ein canlyniadau diweddar ni wedi bod o help.

“Y peth sy’n ein plesio ydi ein bod ni’n rhif 19 yn Ewrop, sy’n dipyn o dasg ynddi’i hun ac os ydan ni am fynd i [Bencampwriaethau Ewro 2016] Ffrainc, rhaid i ni fod yn y 24 ucha yn Ewrop.

“Mi ydan ni wedi cael profiadau anodd mewn rhai gemau, yn enwedig yn erbyn Serbia a Chroatia, ond mi fydd y profiadau yna’n cryfhau’r chwaraewyr ac yn eu haeddfedu nhw.”

Dim ond unwaith, yn 1994, y mae Cymru wedi bod yn uwch yn y rhestrau.