Fe fydd ffilm newydd am daith yr Elyrch o waelod y Drydedd Adran i uchelfannau’r Uwch Gynghrair yn cael ei dangos am wythnos ychwanegol.
Y ffilm ‘Jack to a King’ am dîm pêl-droed Abertawe yw’r ail ffilm fwyaf poblogaidd yn y sinema yng Nghymru ar hyn o bryd, y tu ôl i’r ffilm sydd wedi’i hanimeiddio, Boxtrolls.
Roedd disgwyl i’r ffilm gafodd ei chreu gan Marc Evans a’i chynhyrchu gan Mal Pope, ddod i ben yr wythnos hon, ond mi fydd hi’n cael ei dangos mewn sinemâu yn Abertawe, Llanelli a Phen-y-bont ar Ogwr am saith niwrnod arall.
Ond roedd hi’n llai poblogaidd yng Nghaerdydd!
Mae’r ffilm yn adrodd hanes grŵp o gefnogwyr a ddaeth at ei gilydd i achub y clwb 11 o flynyddoedd yn ôl pan oedd y tîm ar fin disgyn allan o’r Gynghrair Bêl-droed.
Cafodd dwy noson ‘premiere’ eu cynnal dros y penwythnos, y naill yn Abertawe a’r llall yn y West End yn Llundain.