Andy King (Llun: Iolo Cheung)
Mae Andy King wedi cyfadde’ fod ganddo gystadleuaeth gref wrth iddo geisio ennill ei le yng nghanol cae tîm Cymru ar gyfer yr ymgyrch nesaf.

Bydd y garfan yn teithio i Andorra ar gyfer gêm gynta’ eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 nos Fawrth, gan obeithio dechrau ymgyrch newydd gyda buddugoliaeth am y tro cyntaf ers 2008.

Fe fydd King yn gobeithio chwarae’i ran yn y gêm honno ar ôl dechrau chwe gêm ddiwethaf Cymru, a sgorio yn erbyn y Ffindir nôl ym mis Tachwedd y llynedd.

Ond yng nghanol cae mae’r gystadleuaeth fwyaf yn nhîm Cymru o bosib gydag Aaron Ramsey, Joe Allen, Joe Ledley, Emyr Huws a David Vaughan i gyd yn y garfan hefyd.

Mae King, fodd bynnag, yn gobeithio y bydd y ffaith fod ei glwb Caerlŷr newydd gael eu dyrchafu i’r Uwch Gynghrair yn golygu fod ganddo well siawns o ymladd am ei le.

“Yn sicr, rydych chi eisiau chwarae ar y lefel uchaf posib er mwyn gwella’ch gêm, ac yn amlwg mae cael fy ngweld yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn dda,” meddai King wrth golwg360.

“Rydym ni’n gwneud yn dda o ran chwaraewyr canol cae yn yr Uwch Gynghrair gyda Chymru, ac mae’n broblem neis i’r rheolwr.”

Dyfnder y garfan

Wrth siarad mae’n amlwg fod King yn teimlo’r cyffro o ddechrau ymgyrch newydd, a hynny gydag Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn ffit i chwarae.

Ac ar ôl chwarae yn erbyn Ramsey yn yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar, mae’n mynnu y gall chwaraewr canol cae Arsenal ddatblygu i fod yn un o’r goreuon yn ei safle yn Ewrop.

“Byddai’n hwb enfawr i unrhyw wlad yn Ewrop i gael y ddau yna’n troi fyny, bydden nhw mewn unrhyw garfan, felly mae cael y ddau ohonyn nhw’n wych i ni yn amlwg,” meddai King.

“Mae gennym ni garfan gref nawr a dim gormod o anafiadau ar ddechrau’r ymgyrch, ac mae’n gyfle da iawn i ni gael tri phwynt [yn Andorra] a dechrau pethau’n dda.”

Lawrence yn ymuno

Nid King yw’r unig Gymro yng Nghaerlŷr bellach, ar ôl i Tom Lawrence ymuno â’r clwb o Manchester United yn oriau olaf y ffenestr drosglwyddo.

Mae’r ymosodwr ugain oed hefyd yng ngharfan Cymru, gyda King yn cyfaddef fod ei gyd-chwaraewr newydd wedi gwneud argraff arno hyd yn hyn.

Yn ôl King, mae hefyd yn benderfyniad dewr gan Lawrence i symud yn barhaol, yn lle aros ym Man United yn y gobaith o dorri mewn i’r tîm cyntaf.

“Dwi wedi gweld Tom ar gwpl o dripiau nawr, mae’n dda iawn yn dechnegol ac yn symud yn dda, ac mae wedi dod i Gaerlŷr yn gobeithio am fwy o brofiad yn yr Uwch Gynghrair,” esboniodd King.

“A chwarae teg iddo – mae’n hawdd i chwaraewyr o’i oed o i aros ym Man U a mynd ar fenthyg, a chael y rhwyd yna ym Man U i ddisgyn nôl arno.

“Ond mae’r ffaith ei fod o wedi symud i ffwrdd yn barhaol yn beth da iddo, ac mae’n dweud lot am ei gymeriad hefyd.”