Fe fethodd Wrecsam y cyfle i symud fyny i safleoedd gemau ail gyfle’r Gyngres ar ôl colli 2-1 gartref i Woking.

Rhwydodd Scott Rendell i Woking hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, cyn i’r ymosodwr Louis Moult unioni’r sgôr ar ôl 37 munud.

Wrecsam reolodd y meddiant ar y cyfan, ond roedd Woking yn gwneud y mwyaf o’u cyfleoedd i brofi golwr y tîm cartref, Daniel Bachmann.

Ac ar ôl 66 munud fe gipiodd Dean Morgan y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr gydag ergyd o du mewn i’r cwrt cosbi.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn 11fed yn y gynghrair, gyda deg pwynt o chwe gêm.