Fe ranodd Prestatyn a Bala’r pwyntiau mewn gêm gyffrous yng Ngerddi Bastion a orffennodd yn 3-3, yn yr unig gêm yn Uwch Gynghrair Cymru’r prynhawn yma.

Roedd yr hanner cyntaf yn gymharol dawel, gyda gôl Ross Stephens ar ôl 11 munud yn ddigon i roi Prestatyn ar y blaen ar yr egwyl.

Roedd y sgôr yn gyfartal ar ôl 55 munud wrth i Kieron Smith rwydo i’r Bala, cyn i Jack Lewis roi’r tîm cartref nôl ar y blaen dri munud yn ddiweddarach.

Rhwydodd Mark Connolly ar ôl 83 munud i unioni’r sgôr unwaith eto, cyn i Andy Parkinson roi Prestatyn ar y blaen am y trydydd tro gyda phum munud i fynd.

Ond doedd Bala heb orffen, ac ar ôl 87 munud o chwarae fe rwydodd Connolly ei ail er mwyn dod a Bala’n gyfartal am y trydydd tro.