Tim Cymru
Fe fydd rhaid i dîm pêl-droed merched Cymru ennill eu gêm rhagbrofol ola’ i gael cyfle da o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Fe gawson nhw gweir 4-0 gan Loegr neithiwr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan ildio’r holl goliau yn yr hanner cynta’.

Mae hynny’n golygu y bydd rhaid iddyn nhw deithio i’r Wcrain ag ennill i gryfhau eu gobaith o fynd trwodd yn un o’r timau ail-le gorau.

Er y byddai gêm gyfartal yn ddigon i sicrhau mai nhw sy’n ail i Loegr yn y grŵp, dim ond y goreuon o blith y timau ail-le fydd yn mynd i Ganada.

Roedd perfformiad Cymru’n annodweddiadol o llac yn yr hanner cynta’ ond fe gawson nhw gyfle neu ddau i sgorio eu hunain yn yr ail.

  • Ac fe fydd un Cymro yn mynd i’r rowndiau terfynol – dyn o Gymru yw Mark Sampson, hyfforddwr Lloegr. Roedd wedi gweithio i glwb dynion Abertawe o dan Roberto Martinez.