Caerdydd 1 – 0 Wigan Athletic

Roedd gôl gan Nicky Maynard wedi 53 munud yn ddigon i wahanu dau o’r ffefrynnau i ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

Gyda’r tîm yn ddi-guro hyd yn hyn, roedd hyder Caerdydd yn uchel wrth groesawu Wigan, sydd eto i ennill gêm eleni.

Roedd Caerdydd wedi gwneud tri newid o’r tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth ddydd Sadwrn gyda Sean Morrison yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr amddiffyn, Aron Gunnarsson yn dechrau’n erbyn ei hen glwb, a Maynard yn dod mewn i’r ymosod.

Roedd yn gêm dynn o’r dechrau, ond Maynard oedd y mwyaf bywiog i Gaerdydd ac roedd yn anlwcus i beidio ag ennill cic o’r smotyn i’w dîm wedi 22 munud. Fe aeth yn agos gyda pheniad wedi rhediad a chroesiad da Fabio cyn yr hanner hefyd.

Er hynny, di-sgôr oedd hi ar yr hanner, a cafodd cefnogwyr y tîm cartref gyfle cyntaf i weld y chwaraewr newydd, Anthony Pilkington wrth iddo ddod i’r cae yn lle Gunnarson ar gyfer yr ail hanner.

Roedd Pilkington yn fywiog o’r cychwyn cyntaf, ac Chaerdydd yn rheoli’r gêm ar ddechrau’r ail hanner. Talodd y pwysau wrth i Maynard rwydo o rai llathenni wedi 53 munud.

Er i’r ddau dîm greu hanner cyfleodd yn ystod hanner awr olaf y gêm, doedd dim gormod i boeni Marshall yn y gôl i dîm y brifddinas, a sicrhawyd buddugoliaeth arall i Gaerdydd.

Tîm Caerdydd: Marshall (c), Brayford, Connolly, Morrison, Fabio, Adeyemi, Gunnarsson, Whittingham, Daehli, Jones, Maynard.

Eilyddion: Moore, Hudson, Cala, Eikrem, Pilkington, Guerra, Le Fondre