Rhoddodd Costa Rica sioc arall i bawb yng Nghwpan y Byd ddoe ar ôl trechu’r Eidal 1-0 – ac anfon Lloegr adref yn y broses.

Roedd y Saeson wedi gobeithio y gallai’r Eidalwyr gadw’u gobeithion o aros yn y gystadleuaeth yn fyw drwy drechu’r tîm o ganolbarth America.

Ond mae’n ymddangos nad ffliwc oedd buddugoliaeth Costa Rica yn erbyn Uruguay ddydd Sadwrn, wrth i gôl Bryan Ruiz jyst cyn yr egwyl sicrhau buddugoliaeth hanesyddol arall iddyn nhw brynhawn ddoe.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu mai Costa Rica yw’r unig dîm yng Ngrŵp D sydd wedi sicrhau eu lle yn y rownd nesaf ar hyn o bryd, er bod pawb wedi disgwyl mai nhw fyddai tîm gwanaf y grŵp.

Yr Eidal ac Uruguay fydd yn brwydro am yr ail safle yn y gêm olaf felly, a Lloegr yn mynd allan yn y grŵp am y tro cyntaf ers 1958.

Cweir arall gan Ffrainc

Doedd buddugoliaeth Ffrainc o 3-0 dros Honduras yn eu gêm gyntaf ddim yn gymaint â hynny o syndod yn y diwedd o ystyried eu bod wedi chwarae yn erbyn deg dyn am y rhan fwyaf o’r gêm.

Ond roedd curo’r Swistir 5-2 neithiwr yn sicr yn fwy syfrdanol, yn enwedig o gofio record amddiffynnol dda eu gwrthwynebwyr.

Y gwir amdani oedd bod Ffrainc yn wefreiddiol wrth ymosod, ac roedd y gêm drosodd ymhell cyn yr egwyl wrth i Olivier Giroud, Blaise Matuidi a Mathieu Valbuena ei gwneud hi’n 3-0 – a Karim Benzema’n methu cic o’r smotyn hefyd.

Yr un oedd y stori yn yr ail hanner, gyda Benzema a Moussa Sissoko’n ychwanegu rhagor o goliau i Ffrainc, cyn i Blerim Dzemaili a Granit Xhaka arbed ychydig o barch hwyr i’r Swistir.

Fe rwydodd Benzema ail gôl wych yn yr eiliadau olaf hefyd, ond yn anffodus iddo ef roedd y dyfarnwr newydd chwythu’r chwib olaf.

Gobaith Ecuador yn fyw

Mae gobeithion Ecuador o gyrraedd y rownd nesaf yn dal yn fyw ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl i drechu Honduras yng ngêm arall Grŵp E.

Fe aeth Honduras ar y blaen mewn gêm gytbwys iawn, wrth i Carlos Costly sgorio gôl gyntaf ei wlad mewn dros 510 munud yng Nghwpan y Byd.

Unionwyd y sgôr dair munud yn ddiweddarach gan Enner Valencia wrth i’r ymosodwr fanteisio ar bêl rydd yn y cwrt cosbi.

Ac ar ôl 65 munud fe rwydodd Valencia’r gôl fuddugol, ei ail o’r noson a’i seithfed gôl mewn chwe gêm i’w wlad.

Petai Ecuador nawr yn efelychu canlyniad y Swistir yn eu gêm olaf fe fyddwn nhw mwy na thebyg yn cipio’u lle yn y rownd nesaf – ond maen nhw’n wynebu Ffrainc tra bod y Swistir yn herio Honduras.

Gemau heddiw

Yr Ariannin v Iran (5.00yp)

Yr Almaen v Ghana (8.00yh)

Nigeria v Bosnia-Herzegovina (11.00yh)

Pigion eraill


Mae pawb yn hoff o stori’r ‘underdog’, tydyn, ac mae Costa Rica’n llwyddo i ddianc (a mwyaf tebyg ennill) grŵp sydd yn cynnwys yr Eidal, Uruguay a Lloegr yn sicr yn cyfri fel un o’r goreuon.

Ond efallai na fydd y Saeson mor dwymgalon tuag atynt ar ôl i’r camerâu teledu ffocysu ar un cefnogwr o Gosta Rica – oedd i’w weld yn hapus iawn fod Lloegr ar eu ffordd adref!

Dydi ymosodwyr byth yn hapus pan nad ydi’u goliau nhw’n cael eu caniatáu, hyd yn oed pan mae’u tîm nhw 5-2 ar y blaen, ond mae’n siŵr fod gan Karim Benzema fwy o reswm i ddiawlio na’r rhan fwyaf.

Wedi’r cyfan, mi oedd hi’n gôl wych, wrth iddo daro’r bêl ar y cynnig cyntaf o ymyl y cwrt cosbi dros y golwr.

Os ydi’r penderfyniad yna’n costio’r wobr prif sgoriwr iddo (mae o ar dri eisoes) mi fydd ’na bwdu yn nhŷ’r Benzemas (a phawb sydd wedi betio arno!) dwi’n siŵr.