Robert Croft
Gwendid yn y bowlio a’r maesu wnaeth gostio’n ddrud i Forgannwg yn erbyn Swydd Surrey yn Stadiwm Swalec heno, ym marn is-hyfforddwr y sir, Robert Croft.
Collodd Morgannwg yn y T20 Blast o 17 rhediad yn dilyn eu penderfyniad i fowlio’n gyntaf wedi iddyn nhw ennill y dafl.
Ond ildiodd Morgannwg 54 o rediadau oddi ar bum pelawd olaf batiad Swydd Surrey, ac roedd y nod yn ormod i’w gwrso.
Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Robert Croft: “Bob tro y’ch chi’n colli, y’ch chi’n teimlo’n siomedig. O’n ni ddim lan i’r safon heno gyda’r bêl nac ar y maes a wedyn gadael gormod i’w wneud gyda’r bat.”
Ond dydy Croft ddim yn hollol sicr mai’r penderfyniad anghywir oedd bowlio’n gyntaf ar lain oedd yn ymddangos fel pe byddai’n un addas i gwrso erbyn diwedd y noson.
Dywedodd: “Hindsight yw’r peth gorau. Nag o’n ni’n meddwl bod y llain yn mynd i whare fel’na.
“O’n ni’n moyn cael llain sy’n rhoi llawer o help i’r batwyr ond o’dd e tipyn bach mwy araf, yn troi tipyn bach mwy hefyd, ac o’dd y llain yn wahanol i beth gawson ni yn erbyn Caint a gemau eraill ar y Swalec.”
Sgoriodd Swydd Surrey 165 yn eu batiad, ac roedd y cyfanswm yn ymddangos yn un rhesymol i Forgannwg ar noson braf a chlir yng Nghaerdydd.
Dywedodd Croft: “O’n i’n teimlo’i fod e jyst dros par ar y llain ‘na. Naethon ni eiste lawr a meddwl bod 150 yn par ar y llain ‘na. Ond gobeithio nawr bo ni’n gallu dysgu rhywbeth ma’s o’r gêm ‘na a dodi pethe’n gywir cyn y gêm nesa.”
Ymhlith y gwersi i’w dysgu, yn sicr, fydd cwtogi ar nifer y rhediadau ychwanegol sy’n cael eu hildio, ond fe fydd angen hefyd i Forgannwg ganolbwyntio ar eu maesu.
Ychwanegodd Croft mai’r prif wersi yw “cadw’n traed tu ôl y lein, a ddim mynd ma’s a bowlio pedwar ‘no ball’…
“Hefyd gollyngon ni ddau neu dri daliad ar y maes – pethe fel’na. Fi’n credu bo ni’n chwarae’n eitha da gyda’r bat ond yr ‘unforced errors’ maen nhw’n galw fe o’dd wedi costio ni heno.
“Pan y’ch chi’n edrych ar y batio, o’dd Jim Allenby yn well na Hashim Amla. Bob tro y’n ni’n edrych cyn y gemau, ry’n ni’n meddwl bod llawer o sêr gyda ni.”
Ymhen llai nag wythnos, fe fydd Swydd Hampshire yn teithio i Stadiwm Swalec yn y gystadleuaeth hon, ac mae Croft yn ffyddiog y bydd pethau’n gwella yng ngweddill y gystadleuaeth.
Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i ni nawr edrych mlaen at ddydd Mercher nesa a gwynebu Hampshire lawr fan hyn. Ry’n ni mewn safle da, fi’n credu, yn y gystadleuaeth a mae rhaid nawr i ni drio codi pethau i’r gêm nesa.”